Disgrifiad Swydd Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig chwech swydd Gweithiwr Cymdeithasol llawn amser yn rhan o'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yng ngharfanau Gofal a Chymorth ardal Rhondda Fach (Tŷ Elái, Trewiliam), Dwyrain Taf-elái, Gogledd Cwm Cynon a De Cwm Cynon (Prif Swyddfa Cwm Cynon, Aberdâr). Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn brwdfrydig a hoffai weithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod ag anabledd corfforol, salwch cronig, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd meddwl ac sydd ag anghenion cymhleth ac angen am gymorth parhaus, gweithredol gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, bod yn drefnus ac yn gryf eich cymhelliad. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol, a byddwch chi'n credu o ddifrif mewn rhoi annibyniaeth i oedolion ac yn gallu cydbwyso risg yn erbyn hawl yr unigolion i hunanbenderfyniad.
Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd heriol ond cefnogol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai.
Bydd disgwyl i chi ddeall polisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a glynu atyn nhw. Byddai dealltwriaeth o faterion Gofal Iechyd Parhaus a Chynllunio Gofal a Thriniaeth o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 o fantais.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gyda'r nod o leihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith'. I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer ar gyfer cymheiriad. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Ac yntau wedi ymrói i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
Byddwn ni'n disgwyl i chi ymdrin â nifer benodol o achosion a meithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Bydd raid meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod chi wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi.
Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, yn eu cyfweliad.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Rheolwyr Arfer a Chyflawniad y Garfan:
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: • Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y rôl) • Cyfleoedd Datblygu Gyrfa Ardderchog • Cynllun Pensiwn Rhagorol gyda Chyfraniadau Cyflogwr • Cymorth a chyngor Iechyd Galwedigaethol • Cynllun Buddion Staff • Cerdyn Vivup i gael gostyngiadau ar gannoedd o gynhyrchion a gwasanaethau
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr