37 awr yr wythnos – Carfan Cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal Gradd 11 £42,839 y flwyddyn Lefel mynediad hyd at 3 blynedd o brofiad sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 £46,142 y flwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd
Gweithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n Carfan Plant sy'n Derbyn Gofal
sydd newydd ei hailgyflunio. Y swydd Rydyn ni'n chwilio am weithiwr cymdeithasol brwdfrydig, ymroddedig sydd â’r angerdd a’r awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant ac sy'n gallu helpu i gymell y rhwydweithiau o amgylch ein pobl ifainc i gyflawni safonau rhagorol o ofal a chymorth.
Bydd y swydd yma,
nad yw'n gyfrifol am achosion penodol, yn darparu cymorth ac arweiniad ymarferol ac emosiynol i blant, pobl ifainc, rhieni a chynhalwyr (gofalwyr). Bydd hyn yn cynnwys rhoi ymyriadau wedi'u teilwra ar waith i helpu i gefnogi newid a chynnal perthnasoedd iach. Byddwch chi hefyd yn gweithio gyda phobl ifainc sydd wedi bod mewn gofal a'r rheiny sy'n rhoi'r gofal iddyn nhw, gan gefnogi sefydlogrwydd lleoliadau ac atal trefniadau lleoli rhag chwalu. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol gyda theuluoedd geni a phlant sydd wedi bod mewn gofal, er mwyn cefnogi’r bobl ifainc yma gyda’r broses o adael gofal a symud gartref.
Pam gweithio i ni? Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - wrth gefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymuso gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn rhaglen hyfforddi ystyriol o drawma mewnol.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
- Mynediad i'n 'Mannau myfyriol' sy'n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng carfan o bobl neu unigolion, wedi'u hwyluso gan seicolegydd sy'n cefnogi'r broses o rannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor a 'Vivup', ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n gwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn RhCT.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant Cysylltwch â'r rheolwr i gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol: Catherine Williams, Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol E-bost- Catherine.R.Williams@rctcbc.gov.uk Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth Ychwanegol Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad. Bydd disgwyl i'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth eu bod nhw wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol yn eu cyfweliad.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.