Gradd 11 (£34,733 y flwyddyn) – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a bod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Gradd 12 (£37,411 y flwyddyn) – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a bod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig cyfle cyffrous i ymuno â'r Gwasanaethau i Blant yn adran Maethu Cymru RhCT yn
Weithiwr Cymdeithasol neu’n Weithiwr Cymdeithasol Profiadol.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod y maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa ar fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynllun 'Beicio i'r Gwaith' a’r cynllun prynu technoleg 'Let's Connect'.
I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa yn y maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth Y Flwyddyn Gyntaf yn Ymarfer ar gyfer cymheiriaid. Y nod o ran y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Ac yntau wedi ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin cysylltiadau ag asiantaethau partner, a'u cynnal. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yw hanfod y rôl yma. Fe fyddwch chi'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o roi cymorth i'n rhieni maeth, eu goruchwylio a chynnal eu hadolygiadau – gan eu helpu nhw i roi cartrefi diogel, sefydlog, meithringar i blant nad ydyn nhw’n gallu byw gyda'u teuluoedd.
Os ydych chi'n chwilio am her o'r newydd a bod gyda chi brofiadau o wneud gwaith asesu, cynllunio ac adolygu, fe fyddwch chi'n ymuno â charfan gyfeillgar, sydd wedi'i sefydlu ers tro; bydd ei haelodau yn eich croesawu chi ac yn gymorth i chi o'ch diwrnod cyntaf. Mae'n gwasanaeth maethu yn brysur, deinamig ac yn un sy'n cydweithio’n dda; mae'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o'r Gwasanaethau i Blant yn eu cyfanrwydd.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n deall anghenion a phrofiadau plant nad ydyn nhw’n gallu byw gartref, ac sydd âr sgiliau i weithio gyda deinameg deulu gymhleth. Mae galluoedd cyfathrebu, asesu a chynllunio cadarn yn hanfodol, ynghyd ag ymrwymiad i ymarfer nad yw’n ormesol.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa, ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau siopa gyda cherdyn Vivup
I gael sgwrs anffurfiol, ffoniwch
Leanne Day – Rheolwr Carfan Maethu Cymru RhCT ar 07747 485765 neu e-bostiwch –
leanne.day@rctcbc.gov.ukGwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.