37 awr yr wythnos – Carfan Plant Anabl 0-11 oed Gradd 11, £42,839 y flwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol ~ Lefel mynediad hyd at 3 blynedd o brofiad a chofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12, £46,142 y flwyddyn Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd ym maes
Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'r
Gwasanaeth i Blant Anabl. Mae pob Gweithiwr Cymdeithasol sy'n gweithio yn y carfanau yma'n gymwys i dderbyn taliad atodol ar sail y farchnad gwerth
£2,250. Mae hyn yn berthnasol beth bynnag fo hyd eu profiad ôl-gymhwysol. Bydd hyn yn cael ei adolygu ym mis Mai 2027. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu ar sail pro rata bob mis.
Ynglŷn â'r Garfan Mae'r Gwasanaeth i Blant Anabl yn cefnogi plant sydd ag anabledd gydol oes, parhaol a sylweddol. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys pum carfan: Y Garfan Galluogi, y Garfan 0-11 oed, y Garfan 11+ oed, y Garfan Cymhwysedd a'r Garfan Therapi Galwedigaethol.
Mae'r Garfan 0-11 oed yn arbenigo mewn darparu ymyrraeth gynnar mewn cydweithrediad â phlant, eu teuluoedd ac asiantaethau allweddol, gan gynnwys iechyd ac addysg. Prif nod y Garfan 0-11 oed yw cynnig cymorth wedi'i dargedu pan mae'r plant yn ifanc i gryfhau teuluoedd a lleihau'r risg o'r teulu'n chwalu. Y canolbwynt yw cefnogi plant a theuluoedd i gyflawni deilliannau cadarnhaol sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae'r Garfan 0-11 oed yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy'n derbyn gofal a chymorth, gan reoli unrhyw risgiau diogelu sy'n gysylltiedig â Phlentyn Anabl a'i frodyr a'i chwiorydd, gan weithio gyda theuluoedd drwy gydol achosion llys a chyda phlant sy'n derbyn gofal ac sydd wedi'u mabwysiadu.
A chithau'n Weithiwr Cymdeithasol yn y garfan yma, byddwch chi'n rhan o wasanaeth cefnogol ac anogol sy'n elwa ar garfan reoli brofiadol iawn. Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth reolaidd ac ystyrlon, ac yn mynychu cyfarfodydd carfan wyneb yn wyneb. Rydyn ni hefyd yn trefnu cyfarfodydd gwirio lles rheolaidd a sesiynau byr, gan greu lle diogel i feithrin perthnasoedd âch carfan a'ch cydweithwyr eraill.
Pam gweithio i ni? Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - wrth gefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn rhaglen hyfforddi ystyriol o drawma fewnol.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod y mis i ffwrdd o'r gwaith!
- Mynediad i'n 'Mannau myfyriol' sy'n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng carfan o bobl neu unigolion, wedi'u hwyluso gan seicolegydd sy'n cefnogi'r broses o rannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor a 'Vivup', ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n gwbl gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn RhCT.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Kellie Wood, Rheolwr y Gwasanaeth E-bost- Kellie.wood@rctcbc.gov.uk Rhif ffôn – 07385086110 Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol Blwyddyn Olaf Mae gan RCT hanes llwyddiannus a phrofedig o gefnogi nifer fawr o fyfyrwyr ar bob lefel. Mae myfyrwyr blwyddyn olaf sy'n llwyddiannus mewn cyfweliad yn cael cynnig y cyfle i gael eu cyflogi yn Rheolwyr Materion Asesu Gofal dros dro o'r cyfle cyntaf hyd nes bod eu cofrestriad wedi'i gwblhau. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n deall bod modd i'r cyfnod trosglwyddo o astudiaethau i gyflogaeth fod yn brysur, ac felly mae modd i'r oriau cyn dechrau swydd yn weithiwr cymwysedig fod yn hyblyg i weddu i anghenion yr unigolyn. Rhowch gynnig arni!
Gwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.