Lleoliad: Tŷ Elái, Trewiliam, CF40 1NYGweithiwr Cymdeithasol Gradd 11 - Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru Gradd 12 - Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol CymruMae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa ar fuddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Rydyn ni'n gwahodd ceisiadau am Weithiwr Cymdeithasol Dros Dro i weithio'n rhan o'r Garfan Rheoli Gofal yn ei swyddfa yn Nhŷ-elái. Mae'r garfan yn wasanaeth ardal gyfan RhCT ac mae'n manteisio ar ddulliau gweithio hyblyg.
Rydyn ni'n garfan brysur sy'n gweithio gydag unigolion a'u cynhalwyr (gofalwyr) yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) am hyd at ddeuddeg wythnos. A hwythau'n rhan o'r Gwasanaethau Tymor Byr ehangach, gan gynnwys y gwasanaethau Ailalluogi a Gofal Canolradd, mae staff yn y Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr ar draws y Gwasanaethau Tymor Byr i wireddu deilliannau er gwell i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a'u teuluoedd/cynhalwyr, yn ogystal â chydbwyso risg ag annibyniaeth unigol a dewis yr unigolion. Mae disgwyl, felly, i Weithwyr Cymdeithasol yn y garfan yma chwarae rhan weithredol. Byddan nhw hefyd yn gallu adnabod y cyfoeth o brofiad sydd ar gael iddyn nhw, a manteisio ar hynny, yn y Gwasanaethau Tymor Byr. Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol sydd â'r profiad a'r brwdfrydedd i chwarae rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu fod â diddordeb mewn gwneud hynny. Ac yntau wedi ymrói i ymarfer nad yw'n ormesol, bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin cysylltiadau ag asiantaethau partner, a'u cynnal. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso, yn eu cyfweliad.Am ragor o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol mewn perthynas â'r swydd, e-bostiwch Alexandra Bayliss, Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad (Dros Dro): Alexandra.Bayliss@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 444651.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau gweithio hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.