Gweithiwr Cymdeithasol Iechyd Meddwl (Ymgeiswyr Mewnol yn Unig)
Dyddiad cau 18/03/2026
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Cyflog
££- 39,152 up to £- 47,181* y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2865
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin
Gradd:
Social Worker
Cyflog:
£39,152 up to £47,181*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£20.29 up to £24.46*
Oriau Contract:
37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?
Gwaith Cymdeithasol yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig ac yn chwilio am gyfle i weithio yng nghefn gwlad hardd a thawel Gorllewin Cymru, o fewn awdurdod lleol blaengar sy'n rhoi blaenoriaeth i lesiant a chymorth staff?
Yn sgil dwy flynedd o bandemig byd‑eang, mae cymunedau'n parhau i deimlo'r effaith hirdymor ar eu hiechyd, eu llesiant ac ar eu gwydnwch emosiynol. O ganlyniad, mae cyfle cyffrous parhaol, llawn amser wedi codi yn ein Tîm Iechyd Meddwl Oedolion sydd wedi'i leoli yng Nghaerfyrddin. Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig (Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW, CQSW) sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Y Rôl
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig a gwydn i ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl yn y Gymuned yng Nghaerfyrddin. Croesawn geisiadau gan weithwyr cymdeithasol newydd‑gymhwyso yn ogystal â'r rhai profiadol.
Fel aelod o'n tîm, byddwch yn:
• Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr ac ystod o weithwyr proffesiynol. • Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio dulliau canolog i'r unigolyn ac sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. • Cynnal asesiadau a datblygu, monitro ac adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth neu Gynlluniau Gofal a Triniaeth. • Derbyn goruchwyliaeth reolaidd mewn amgylchedd cefnogol sy'n hyrwyddo datblygiad personol a phroffesiynol. Yr Hyn sydd ei Angen arnoch
• Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig gyda chymhwyster priodol (Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW, CQSW). • Y gallu i deithio o fewn y sir. • Gwybodaeth sylfaenol o'r Gymraeg (gellir darparu cymorth ar ôl penodi i gyrraedd y lefel ofynnol). Ymholiadau Anffurfiol
Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Carys Lewis‑Thomas, Rheolwr Tîm CMHT 01267 244300
* Mae dilyniant y tu hwnt i bwynt cyflog £42,839, hyd at uchafswm o £47,181 yn amodol ar asesiad panel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol' yr Awdurdod**
**Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol
Mae'r 'Fframwaith' yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen atgyfnerthu, ac sy'n ymgymryd ag ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth yn rheolaidd. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod.
Disgrifiad Swydd:
026461.pdf - 277KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
30 Mawrth 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 18/03/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
• Cyflog cystadleuol • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr