Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Dyma gyfle cyffrous i weithio o fewn y Tîm Lles Meddyliol newydd yng Nghonwy. Rydym yn cydweithio'n agos â phartneriaid a gwasanaethau eraill i ddarparu cymorth arbenigol ac ymyraethau ar gyfer pobl sydd ag anghenion cymhleth oherwydd gwahanol fathau o straen seicolegol.
Mae rôl y gweithiwr cymdeithasol yn cynnwys cynnal asesiadau; darparu ymyriadau therapiwtig; ymgynghori â gweithwyr proffesiynol a staff eraill ar y rheng flaen; cynnig cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd, gan gynnwys eu 'cyfeirio'; cefnogi atgyfeiriadau.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr cymdeithasol â thuedd seicolegol ac sy'n ddiragfarn, sy'n dymuno cadarnhau a datblygu eu sgiliau, gan gynnwys sgiliau asesu, ymgysylltu, therapiwtig a chyswllt proffesiynol.
Bydd deiliad y swydd yn cael hyfforddiant a chymorth goruchwyliol ardderchog ac hefyd yn cael cyfle i weithio'n greadigol gyda llawer o benrhyddid proffesiynol.
Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr