Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2215
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
30 Medi 2026
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Social Worker
Cyflog:
£39,152 up to £47,181*
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£20.29 up to £24.46*
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm £39,152 - £47,181 (gan ddibynnu ar brofiad)
Gweledigaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin yw cadw plant yn ddiogel a chadw teuluoedd gyda'i gilydd ac rydym yn buddsoddi yn ein gwasanaethau er mwyn gwireddu hyn.
Rydym yn gwybod y gall gweithwyr cymdeithasol da wneud byd o wahaniaeth i blant a theuluoedd sydd angen cymorth, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein gweithwyr cymdeithasol yr hyn sydd ei angen arnynt i wneud eu gwaith yn dda.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno ag awdurdod cefnogol a blaengar sy'n gwerthfawrogi'r profiad a'r sgiliau sydd gennych chi.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol o safon uchel, a gwasanaeth ehangach sy'n cydweithio i wneud ei orau glas i gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i aros gyda'i gilydd a theimlo cysylltiad â'u cymunedau.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â chymhwyster gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn rôl gofal cymdeithasol.
Fel gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, byddwch yn cael y dechrau gorau gyda chymorth pwrpasol i ddatblygu yn eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod gwerth aruthrol profiad, a'r gwaith cymhleth y mae gweithwyr cymdeithasol profiadol yn ei wneud. Byddwch yn cael cyfle i wneud cynnydd mewn perthynas ag arferion gwaith cymdeithasol (y tu allan i lwybr rheoli) drwy ein 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol'. O symud ymlaen yn llwyddiannus, cynigir yr ystod gyflogau uwch.
Gallwn gynnig cymorth ymsefydlu cynhwysfawr, goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd, gweithio hybrid a hyblyg, a rhwydwaith datblygu proffesiynol cefnogol.
Gweithiwr cymdeithasol plant
Os ydych yn teimlo y gallech gyfrannu a dod â'ch profiad, eich syniadau a'ch sgiliau i'r tîm, rydym am glywed gennych.
I gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â Catrin Williams, CatrWilliams@carmarthenshire.gov.uk new or Michaela Lewis, MiLewis@carmarthenshire.gov.uk
Mae dilyniant y tu hwnt i'r pwynt cyflog £42,839, hyd at uchafswm o £47,181, yn amodol ar asesiad gan banel dilyniant o dan 'Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol Gwaith Cymdeithasol'** yr Awdurdod. **Fframwaith Dilyniant Ymarferydd Profiadol. Mae'r 'Fframwaith' yn cydnabod Gweithwyr Cymdeithasol sydd wedi cwblhau eu rhaglen gadarnhau, ac sy'n ymgymryd ag arferion gwaith cymdeithasol cymhleth fel mater o drefn. Mae hefyd yn cydnabod y Gweithwyr Cymdeithasol hynny sy'n ymgymryd ag ymchwil a rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ôl-gymhwyso perthnasol, a allai gynnwys bod yn Addysgwr Ymarfer sydd â myfyrwyr yn eu hail flwyddyn a'u trydedd flwyddyn, neu feddu ar drwydded Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy ac ymarfer yn yr Awdurdod.Disgrifiad Swydd:
018719.pdf - 178KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/11/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.