Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
Ynys Môn
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd Adrodd i Reolwr y Tîm, a chyfrannu tuag at ddatblygu a darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol cynhwysfawr o fewn y tîm dynodedig yn y Gwasanaethau Plant: -
• Ymgymryd â'r holl ddyletswyddau statudol yng nghyswllt plant mewn angen, diogelu plant a phlant y gofelir amdanynt • Dangos dealltwriaeth o weithio gyda phlant a'u teuluoedd. • Rheoli baich gwaith o wahanol lefelau o gymhlethdod, a hynny'n ymwneud ag asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso camau gweithredu priodol, cyfrannu at ddefnydd effeithiol o adnoddau er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant a'u teuluoedd. • Cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddyd, safonau cenedlaethol a pholisïau Adrannol.
Gan ddibynnu ar brofiad a gallu'r ymgeisydd llwyddiannus i wneud gwaith cymdeithasol ymarferol ar ei lefel fwyaf cymhleth, yn cynnwys asesu a rheolaeth briodol o risgiau, rydym yn edrych i benodi unigolion all:
• Arolygu gwaith achos aelodau eraill y tîm yn eu blwyddyn gyntaf o ymarfer • Hyfforddi a mentora cydweithwyr yn y maes gwasanaeth neu rai sy'n gweithio gyda'r gwasanaeth gan sicrhau datblygiad proffesiynol a gwelliant parhaus yn y gwaith. • Gweithredu fel adnodd i staff a rheolwyr i ddarparu cyngor proffesiynol ar achosion unigol. • Bod â chysylltiad gydag ymchwilio a hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. • Gynnig ystod o ymyraethau gyda'r ffocws ar gael atebion gydag unigolion a theuluoedd o fewn model adfer, ail - alluogi a mynd i'r afael â materi on yn ymwneud ag ansawdd bywyd.
Mwy o wybodaeth Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt Enw: Keith Walters
Rhif ffôn: 07585449075
Cyfeiriad e-bost: Keithwalters@ynysmon.llyw.cymru
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr