Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio yng nghyngor Powys. Mae'r swydd oddi fewn i'r Tîm Gofalwyr Cysylltiedig, ac yn rhan o dîm staff sefydlog, cefnogol, sydd wedi hen ennill ei blwyf. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â'n tîm ac rydym yn awyddus i glywed gennych os hoffech gyfrannu at newid cadarnhaol yn y sefydliad tra'n cael cyfle i ddatblygu gyrfa. Rydym yn ymfalchïo yn ein brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd hyfforddi.
Mae'r Tîm Gofalwyr Cysylltiedig yn ymgymryd ag asesu a chefnogi ffrindiau a theulu sy'n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol goruchwylio lwyth gwaith y gellir ei reoli, ac maen nhw'n derbyn hyfforddiant sefydlu trylwyr, yn derbyn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen. Mae'r tîm gofalwyr cysylltiedig yn gweithio'n agos at y timau eraill o fewn y gwasanaeth maethu, ac mae'n bosibl y bydd hyblygrwydd wrth gwblhau gwaith asesu o fewn y tîm maethu a gwarchodaeth arbennig cyffredinol.
Amdanoch chi: - Profiad ôl-gymhwyso mewn rôl gweithiwr cymdeithasol cysylltiedig â maethu neu brofiad ôl-gymhwyso mewn lleoliad gofal plant arall fel tîm plant sy'n derbyn gofal.
- Gallu dangos y gallwch gwblhau asesiadau mewn modd amserol.
- Dylech fod â gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion a phrofiadau plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth mewn deinameg a chefnogaeth deuluol gymhleth.
- Y gallu i gefnogi ein gofalwyr maeth a'u teuluoedd i gyflawni'r canlyniadau gorau i'r plant sydd yn eu gofal.
- Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Rheoliadau Maethu Awdurdodau Lleol
Eich dyletswyddau: - Cwblhau asesiadau dichonoldeb ac asesiadau personau cysylltiedig, gan gynnwys asesiadau ym maes y Llys.
- Cefnogi a goruchwylio gofalwyr unigolion cysylltiedig, gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth dda gyda chyngor ac arweiniad priodol i'w galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd diogel, iach, sy'n meithrin a dysgu, i blant/pobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt.
- Cyfleoedd i gymryd rhan gan ddarparu hyfforddiant person cysylltiedig, fel Sgiliau Gofal.
- Cefnogi'r swyddogion recriwtio drwy gymryd rhan weithredol weithiau wrth recriwtio gofalwyr maeth.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Delyth Berni email: delyth.berni@powys.gov.uk Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.