Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Tîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy (Oriau Gwaith Sesiynol) Cyflog G12 £26.06 - £27.71 GWEITHIWR CYMDEITHASOL PROFIADOL (Oriau Gwaith Sesiynol) Cyflog G10 £21.65 - £23.27
Rydym ni'n gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu, Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a meddygon teulu. Rydym ni hefyd yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae Gweithwyr Cymdeithasol y tîm yn ymdrin â bob mater a defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys plant ac oedolion mewn perygl, lleoliadau gofal maeth wedi chwalu, oedolion diamddiffyn yn y ddalfa, pobl sy'n profi argyfwng yn eu hiechyd meddwl a phobl hÅ•n sydd angen gwasanaethau i'w cadw'n iach ac yn ddiogel.
Mae arnom ni angen Gweithwyr Cymdeithasol (Sesiynol) Profiadol o wahanol gefndiroedd i ymuno â'n tîm o Weithwyr Cymdeithasol ar Ddyletswydd Brys. Mae cymhwyster Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn ddymunol iawn, neu brofiad ym maes amddiffyn plant. Bydd yn rhaid i chi fod yn unigolyn brwdfrydig a llawn dychymyg ac yn greadigol yn eich dull o ddatrys problemau. Yn gyfnewid byddwch yn derbyn cefnogaeth gadarn gan gydweithwyr a rheolwyr y gwasanaeth.
Mae Tîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, felly bydd cyfle i weithio gyda gwahanol garfannau o'r boblogaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae'r patrwm sifft yn cynnig hyblygrwydd - byddwch yn un o dri Gweithiwr Cymdeithasol ar ddyletswydd yn ystod ein hamseroedd prysuraf ac yn un o ddau ar adegau llai prysur.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Mike Bell (Arweinydd Gwasanaeth) ar 01978 298437 neu anfonwch neges ato i: mike.bell@wrexham.gov.uk.
Vicky Valentine (Rheolwr Tîm Rhanbarthol) ar 01978 298437 neu e-bostiwch vicky.valentine@wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.