Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (GICD)

Dyddiad cau 26/02/2026

Cyflogwr

Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Lleoliad

  • Wrecsam
    • Pob ardal

Manylion

Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£&#163- 41,771 - &#163- 45,091 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Ynglŷn â'r Rôl
Mae Adran Gofal Cymdeithasol Plant Cyngor Wrecsam yn dymuno penodi gweithiwr cymdeithasol profiadol i ymuno â'r GICD. Mae rhagor o wybodaeth am y GICD ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y penodiad hwn yn galluogi i weithiwr cymdeithasol cofrestredig weithio gyda staff y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Bwriedir y GICD i'r teuluoedd hynny ble mae cymhlethdodau rhianta yn bodoli gan gynnwys camddefnyddio sylweddau neu alcohol, cam-drin domestig neu faterion Iechyd Meddwl. Mae'r GICD yn dîm aml-asiantaeth a hyfforddwyd mewn Cyfweld Ysgogiadol a Therapi sy'n Canolbwyntio ar Atebion i gydweithio gyda theuluoedd sydd â'r anawsterau hyn. Ein nod yw galluogi teuluoedd i greu amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae ymarferwyr yn cydweithio â theuluoedd a'r timau Gofal Cymdeithasol Plant i hwyluso ymyrraeth ddwys sy'n cefnogi a galluogi teuluoedd i gael cyfle i wneud newidiadau i gadw teuluoedd gyda'i gilydd. Bydd ymarferwyr yn gweithio yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.