Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - SPOA - Mewnol yn unig
Dyddiad cau 19/10/2025
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol G10 £41,771 - £45,091 y flwyddyn
Gofynnir am geisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol Cymwysedig ar gyfer swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol (G10) o fewn Un Pwynt Mynediad (UPM) i Oedolion (SPOA). Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio o fewn drws blaen Gofal Cymdeithasol Oedolion. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus amrywiaeth helaeth o brofiad o ran ymarfer a gwybodaeth. Bydd angen iddynt ddangos dealltwriaeth dda o'r ffordd y gall Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth gefnogi dinasyddion Wrecsam.
Mae'r tîm Diogelu Oedolion a TDAR o fewn Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae'r tîm yn gyfrifol am sicrhau bod atgyfeiriadau at ofal cymdeithasol i oedolion yn cael eu sgrinio, eu gweithredu fel y bo'n briodol, gan gynnwys darparu sgwrs Beth sy'n Bwysig sy'n canolbwyntio ar y person a chynnig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, cyfeirio neu wybodaeth ac ymwybyddiaeth o gymorth yn y gymuned.
Mae'r Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol yn rhan o dîm sy'n gweithredu system ddyletswydd a bydd yn ofynnol iddo ymgymryd â dyletswydd ar sail rota, ymateb ar unwaith ac yn effeithiol i achosion sy'n codi, deall y system gofnodi i nodi'r achos a'r rhai sydd/sydd ddim yn gysylltiedig, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae'r rôl yn gweithio ochr yn ochr â thîm o Reolwyr Tîm Cynorthwyol, Aseswyr Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Cyswllt Cyntaf. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Karen Parkes, Rheolwr Dros Dro y Tîm ar 01978 298236.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.