Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.
Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU - drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi'r canlynol i chi:-
• Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith
Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer
llwythi achos gwarchodedig
Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
Swyddfa fodern a llachar
Cymorth a goruchwyliaeth rheoli rhagorol
Datblygiad a dilyniant gyrfa personol
Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
Gwaith uniongyrchol sy'n seiliedig ar ydystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc
Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso?
Mae'r Tîm Asesu ac Ymyrryd yn cynnal asesiadau cynhwysfawr gyda phlant a'u teuluoedd a allai fod yn profi anawsterau. Mae'r tîm hefyd yn cwblhau pob ymholiad amddiffyn plant cychwynnol i'r adran. Trwy eu holl waith, mae'r Tîm Asesu ac Ymyrryd wedi ymrwymo i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'r bobl ifanc a'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw. Rydym yn gweithio'n galed i gadw teuluoedd gyda'i gilydd ond yn cymryd camau pan fo angen i sicrhau diogelwch uniongyrchol a hirdymor plant.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael 'diwrnodau hyblyg', gan adeiladu amser i'w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Aelodaeth hamdden ratach.
Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Mae'r swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol hwn yn y Tîm Cymorth i Deuluoedd/Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Tîm Asesu ac Ymyrryd yn denu taliad cymhelliant recriwtio o £2,996 fel croeso i'r Cyngor.
Mewn rhai amgylchiadau, gall taliad cymhelliant cadw ychwanegol o £2,996 hefyd fod yn berthnasol ar ben-blwydd eich apwyntiad os ydych yn parhau mewn swydd / tîm cymwys.
Bydd y taliad hwn yn pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser ac mae'n destun didyniadau gweithwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae telerau ac amodau eraill yn berthnasol. Gweler y nodyn Canllaw Taliad Recriwtio a Chadw am ragor o fanylion.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais ( Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â'r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â'r rôl hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.