G10 £40,476 - £43,693 y flwyddyn
Os ydych yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ymrwymedig, creadigol a gwydn, mae gennym gyfle cyffrous o fewn ein Tîm Cymorth i Deuluoedd.
Rydym yn edrych am weithiwr cymdeithasol cymwys i gefnogi ein siwrnai wella barhaus tuag at arfer gorau, fel y dangoswyd o fewn ein harchwiliad cadarnhaol diweddar.
Rydym eisiau rhywun sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid i blant a phobl ifanc. Yma yn Wrecsam rydym yn defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar dystiolaeth a gwaith uniongyrchol i gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant - sy'n rhoi'r cyfle iddynt gyrraedd eu llawn botensial a chael eu cadw'n ddiogel.
O fewn y Tîm Cymorth i Deuluoedd rydym yn cynnig llwythi achosion wedi'u diogelu. Mae hyn yn rhoi cyfle i staff Gofal Cymdeithasol weithio'n agos gyda theuluoedd a phlant i gael effaith ar newid. Yn ogystal, rydym yn cynnig gweithio'n hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ardderchog gan gynnwys gweithio o bell.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio ble byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ragorol a chefnogaeth gan y tîm rheoli. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol o £43,693 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, gwyliau blynyddol â thâl, hyfforddiant a datblygiad gyrfa a chymelldaliad recriwtio a chadw staff o £5,992.
Pam ymuno â'r Tîm Cymorth i Deuluoedd fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae'm Cymorth i Deuluoedd yn cynnwys cymysgedd o Weithwyr Cymdeithasol profiadol, gweithwyr cymdeithasol newydd a Gweithwyr Cefnogi Teulu sydd i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd tîm cefnogol a gofalgar. Mae cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Reolwr Tîm a thri Rheolwr Tîm Cynorthwyol profiadol. Rhagorol yw'r unig air i ddisgrifio'r swyddfa fawr, olau sy'n hwyluso gwaith tîm effeithiol lle mae pob tîm yn parchu ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd i wireddu'r gyd-weledigaeth o wella canlyniadau ar gyfer y plant y maent yn eu cefnogi yn Wrecsam. Rydym yn adran gymharol fach gyda holl staff ar un llawr mewn un adeilad sy'n ei gwneud yn llawer haws i ffurfio perthnasoedd proffesiynol.
Bydd y GweithwyrCymdeithasol Tîm Cymorth i Deuluoedd yn gyfrifol am Ofal a Chefnogaeth ac Achosion Amddiffyn Plant a ble bo'n briodol yn gyfrifol am gychwyn gweithdrefnau gofal i'r gwrandawiad llys cyntaf. Byddwch yn derbyn arweiniad i sicrhau yr ymgymerir â holl ofynion statudol, bydd hyn yn cynnwys ymweliadau, cynllunio gofal a chyfarfodydd grŵp craidd, cynadleddau Amddiffyn Plant a swyddogaethau cysylltiol eraill. Bydd ymgeisydd llwyddiannus angen sgiliau asesu ac ysgrifennu adroddiadau da a bod yn ddadansoddol a phenderfynu'r ffordd orau i gefnogi'r bobl ifanc ar eu llwyth achos.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles da yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o fod wedi creu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol wireddu canlyniadau ystyriol ac effeithiol.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant:
- Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
- Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
- Dewisiadau gweithio'n hyblyg a'n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles
- Rhaglen ymgynefino fanwl
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Mae'r swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol hon yn y Tîm Cymorth i Deuluoedd yn denu cymelldaliad o £2,996 fel croeso i'r cyngor. Mewn rhai amodau gall cymelldaliad cadw ychwanegol o £2,996 hefyd fod yn berthnasol ar ôl blwyddyn yn eich swydd os byddwch yn parhau yn y gwasanaeth mewn rôl/tîm cymwys. Felly yn gwneud y cymelldaliad Recriwtio a Chadw o £5,992.
Mae'r taliad hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae'r taliad yn destun didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Bydd angen i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig âr Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd âr rôl hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys addas waeth beth fo'u hil, rhyw, rhywioldeb, anabledd, crefydd, cred neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: Swydd-dd... (.doc) (125kb) , Recruitm... (.docx) (13kb) , Taliad c... (.docx) (13kb) , Job Desc... (.doc) (124kb)