Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithwyr Cymdeithasol - Gwasanaethau Oedolion Wrecsam ( Tîm Anabledd Pob Oed )
Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
G09 - £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Oedolion.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i gefnogi oedolion i gyflawni eu canlyniadau personol.
Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU - drwy ein gwerthoedd craidd, sef Gwaith Tîm, Gonestrwydd, Parch, Arloesedd, Gwerth am Arian a Grymuso. Byddwn yn rhoi'r canlynol i chi:-
• llwythi achos gwarchodedig
amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
swyddfa fodern a llachar
cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr
datblygiad a dilyniant gyrfa personol
sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
bydd dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd eich ymarfer.
Mae'r Tîm Anabledd Pob Oed yn darparu ymyrraeth a chymorth i Blant ac Oedolion o unrhyw oedran a allai fod ag Anabledd Dysgu wedi'i ddiagnosio, Anabledd Corfforol Difrifol ac Anableddau Lluosog ag anghenion cymhleth. O fewn y tîm byddwch yn asesu plant ac oedolion ar gyfer anghenion gofal a chymorth cymwys. Yna byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau personol trwy wybodaeth, cyngor a chymorth neu drwy drefniadau comisiynu ffurfiol. Fel rhan o waith gyda phlant, byddwch hefyd yn ymgymryd ag achosion amddiffyn plant pan fo angen. Fel rhan o waith gydag oedolion, byddwch hefyd yn arwain ar bryderon diogelu ac yn cefnogi dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn gweithio mewn tîm amlasiantaethol ac yn cael cyfle i ddatblygu o fewn arbenigeddau penodol.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam,rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael 'diwrnodau hyblyg', gan adeiladu amser i'w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu
Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Aelodaeth hamdden ratach.
Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am yrôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais ( Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.