Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Tîm Anabledd Pob Oedran - Gweithiwyr Cymdeithasol Cofrestredig
Dros Dro tan 14/05/2026 Ystyrir trefniadau gweithio rhan-amser a rhannu swydd i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith Cyflog G09 £32,909 - £35,411 Cyflog G10 £36,298 -39,493
(yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Mae gan y Tîm Anabledd Pob Oedran gyfle cyffrous i weithwyr cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl anabl o bob oed a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Plant 1989 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o'u bywydau.
Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu galluogi i ganfod eu canlyniadau personol eu hunain. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i rwydweithiau cefnogi, gan gynnwys teuluoedd, i hyrwyddo annibyniaeth, sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau.
Hoffai'r tîm atynnu Gweithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant gydag unrhyw lefel o brofiad i gynnal llwythi achosion yn bennaf ar gyfer oedolion. I fod yr unigolyn cywir ar gyfer y swydd hon, bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm, profiad o weithio gydag oedolion diamddiffyn a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion pobl gydag anabledd â diagnosis wrth gadw at ganllawiau, polisïau a safonau statudol. Mae'r Tîm Anableddau Pob Oed yn darparu cyfle i weithio mewn maes o arbenigedd penodol gyda'rposibilrwydd o ddatblygu sgiliau a phrofiad ymhellach i weithio ar draws holl agweddau'm, gan gynnwys plant os y dymunwch wneud hynny.
Yn gyfnewid rydym ni'n cynnig:
ï€ Goruchwyliaeth a chefnogaeth rheoli gadarn ï€ Cefnogaeth wych i gydweithwyr a morâl tîm cadarnhaol, gan gynnwys cefnogaeth mentor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso. ï€ Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus ï€ Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio'n hyblyg a rhannu swydd ï€ Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Carys West, Rheolwr Tîm, ar 01978 298551 neu anfonwch e-bost at carys.west@wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.