Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
2 swydd ar gael
A chithau'n weithiwr cymdeithasol yn y tîm Anabledd Dysgu Cymunedol, byddwch yn darparu ymateb galluogol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau i oedolion y mae materion anabledd, eiddilwch, anableddau dysgu, iechyd meddwl a dementia yn effeithio arnynt, sy'n gofyn am ymateb gwaith cymdeithasol amserol. Gan weithio gyda dull amlddisgyblaethol, eich rôl fydd darparu gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol, gan gynnwys asesu anghenion, a lle y bo'n gymwys cynlluniau gofal a chymorth, a lle y bo'n briodol cynlluniau gofal a thriniaeth a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gan ganolbwyntio ar 'yr hyn sy'n bwysig' i bobl. Lle y bo'n ymarferol, byddwch yn canolbwyntio ar atal a hunanreoli, gan alluogi unigolion i gynnal annibyniaeth drwy gyfuniad o asesu, gofal a chymorth ac ymyriadau ymarferol eraill.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwaharddedig Oedolion a Phlant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr