Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Anableddau Plant a Phontio
Dyddiad cau 08/04/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Tîm Anableddau Plant a Phontio
Gweithiwr Cymdeithasol 1-3
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n pontio i fyd oedolion.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm Anableddau Plant a Phontio prysur, llawn cymhelliant a chefnogol. Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy. Eich rôl fydd darparu gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol, gan gynnwys asesu anghenion, a lle y bo'n gymwys cynlluniau gofal a chymorth, a fydd yn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant unigolion a'u teuluoedd.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol mewn lleoliad gwasanaethau plant neu oedolion ac awydd i arbenigo mewn gweithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion anabl. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle prin i reoli achosion plant ac oedolion, 0-25 oed ac i gael amrywiaeth eang o brofiad o reoli achosion ar draws y rhychwant oedran o fewn tîm cefnogol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon a hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Bev Whiteley, Rheolwr Tîm, neu Lisa Jefferies, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Anableddau Plant a Phontio ar (01656) 815442.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl ar restr Gwaharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 08 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 14 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 24 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr