Oherwydd bod gwaith cymdeithasol gwych yn dechrau gyda chydbwyseddMae gennym gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol cymwys i ymuno â'n
Tîm Asesu Gofal Plant - tîm statudol sy'n ymroddedig i ddiogelu plant a chefnogi teuluoedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth weithio mewn amgylchedd cefnogol, sy'n flaengar ac sy'n gwerthfawrogi
hyblygrwydd, llesiant a thwf proffesiynol. Rydym yn credu bod gwaith cymdeithasol rhagorol wedi'i adeiladu ar amser, ymddiriedaeth, a myfyrio - ac rydym wedi ymrwymo i'ch helpu chi i ffynnu.
Pam Sir Benfro? Rydym yn hyrwyddo ymarfer cynaliadwy yn weithredol drwy drefniadau gweithio gwirioneddol hyblyg, gan gynnwys y canlynol:
- Gweithio hyblyg ac ystwyth
- Gweithio naw diwrnod fesul pythefnos - diogelu llesiant a hirhoedledd yn ymarferol
- Diwylliant sy'n cydnabod realiti gwaith cymdeithasol
- Sgyrsiau agored a gonest am lwyth gwaith, cydbwysedd a nodau gyrfa
- Goruchwyliaeth fyfyriol a chefnogaeth gref gan gymheiriaid
- Llwybrau gyrfa a dilyniant clir
- Cyfleoedd i ddatblygu rolau arbenigol, arweinyddiaeth a rôl addysgwr
Beth sydd ar gael - Taliad croeso euraid o £3,000
- Taliad cymhwysedd proffesiynol o £3,000 (mae cymhwysedd yn berthnasol)
- Taliad atodol dros dro ar sail y farchnad o £3,000
- Amser hael o'r gwaith â thâl - 26 diwrnod yn codi i 31 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Ystod gynhwysfawr o bolisïau wedi'u cynllunio i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhagorol gyda chyfraniad cyflogwr uwch ac opsiwn o gyfraniad gwirfoddol ychwanegol
- Pecyn adleoli hyd at £8,000
- Byw a gweithio ym mhrydferthwch Sir Benfro
Ynglŷn âr rôl Fel rhan o'r Tîm Asesu Gofal Plant, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Ymgymryd ag ymchwiliadau amddiffyn plant, asesiadau a gwaith yn y llys
- Rheoli llwyth achosion amrywiol, gan gynnwys achosion lefel uwch yn ymwneud â phlant mewn angen a phryderon ynghylch camfanteisio
- Gweithio o fewn amserlenni statudol a chyfrannu at ddiogelu plant
- Cymryd rhan yn y rota ymchwiliadau adran 47 ar y cyd a chefnogi gwaith datblygu timau arbenigol
-
Byddwch yn cael
goruchwyliaeth reolaidd, cefnogaeth reoli gref, a mynediad at gyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano - Gweithiwr cymdeithasol cymwysedig
- Y gallu i yrru a bod â mynediad i gerbyd
- Profiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd
Gadewch i ni siarad Rydym yn annog sgyrsiau anffurfiol am hyblygrwydd, llwyth gwaith, datblygiad gyrfa neu adleoli cyn i chi wneud cais - cysylltwch â:
Wendy RodriguesRheolwr Tîm -m Asesu Gofal Plant, Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir Penfro
📞 01437 776688
wendy.rodrigues@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.Gwiriadau CyflogaethMae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.