G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni'n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae'r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £39,513 y flwyddyn pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â Thîn Derbyn Gofal fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae'r Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn cynnwys cymysgedd o weithwyr cymdeithasol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso a phedwar Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd, sydd yn cefnogi ei gilydd. Mae cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Reolwr Tîm a dau Reolwr Tîm Cynorthwyol. Rhagorol yw'r unig air i ddisgrifio'r swyddfa olau a helaeth ac mae'n hwyluso gwaith tîm effeithiol. Yr awyrgylch rhwng bob tîm yw parch gan gefnogi ei gilydd gyda'r weledigaeth a rennir i wella canlyniadau i'r plant yn Wrecsam maent yn eu cefnogi.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae'r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy'n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant
- Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
- Mynediad at becyn ad-leoli hyd at £5,000
- Opsiynau gweithio'n hyblyg a'n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
- Rhaglen ymgynefino fanwl
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra'n gweithio i'r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus ( Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam )
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â'r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd âl hon.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: Cymhelli... (.docx) (13kb) , Job Desc... (.doc) (124kb) , Recruitm... (.docx) (13kb) , Swydd-dd... (.doc) (126kb)