Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Rhyddhau ar y Cyd

Dyddiad cau 17/09/2025

Cyflogwr

Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council

Lleoliad

  • Sir Benfro
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Mae gwasanaethau cymdeithasol Sir Benfro yn ymrwymedig i ffyrdd cynhwysol ac arloesol o weithio. Rydym wedi croesawu'r agenda ataliol yn frwd, gan arwain ar nifer o fentrau, a gweithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr ym maes iechyd a'r trydydd sector. Rydym hefyd yn arwain y ffordd o ran ymgorffori modelau megis cyfathrebu cydweithredol sy'n seiliedig ar gryfderau mewn ymarfer bob dydd yn y gwasanaethau i oedolion. Mae'r ymrwymiad hwn i ddull cadarnhaol sy'n seiliedig ar gryfderau hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ein hymrwymiad i'n staff - i roi cyfle i bawb ddatblygu'n broffesiynol, ennill profiad, rhannu eu gwybodaeth a chyflawni eu potensial.

Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn y Tîm Rhyddhau ar y Cyd, sef tîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig wedi'i leoli yn Ysbyty Llwynhelyg. Rôl y tîm yw cefnogi'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty, gan sicrhau bod gofal a chymorth ar gael i'r rheini sydd eu hangen. Mae hyn hefyd yn ymwneud â chyfeirio at y trydydd sector neu weithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill pan nad oes angen gwasanaethau statudol o bosibl. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn brofiadol ym maes gofal i oedolion a bod yn gymwys i gwblhau asesiadau integredig a chynlluniau gofal a chymorth, ynghyd â meddu ar brofiad a chymhwysedd wrth gynnal asesiadau galluedd a budd pennaf a gweithio'n gyffredinol o fewn y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Byddai gwybodaeth ymarferol am ofal iechyd parhaus hefyd yn ddefnyddiol. Mae gennym safonau uchel y byddwn yn disgwyl i chi eu bodloni, ond, yn gyfnewid am hynny, gallwn ddarparu amgylchedd gwaith cadarnhaol, rheolwyr cefnogol, cyfleoedd goruchwylio a dysgu rheolaidd, a chydweithwyr cyfeillgar a chroesawgar.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.