Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Tîm: Gwasanaethau Plant
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,551 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu gwasanaeth yn ein Timau Ardal Gwasanaethau i Blant deinamig. Mae Gwasanaethau i Blant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol amser llawn yn Nhîm Rhymni, sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad iawn i weithio mewn amgylchedd heriol ond gwerth chweil.
Mae chwe thîm (ardal) Gwasanaethau i Blant wedi'u lleoli'n ddaearyddol. Mae’r timau’n cynnal asesiadau a rheoli gofal o ansawdd uchel i blant a’u teuluoedd sydd wedi’u hasesu fel rhai sydd angen ymyrraeth barhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r timau'n ymdrin â gwaith tymor byr a thymor hir, gan gynnwys plant sydd angen gofal a chymorth, plant sy'n derbyn gofal, diogelu plant a gwaith llys.
Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwysedig, neu ar fin cymhwyso eleni, dewch i weithio yng Nghaerffili a chael cymorth ar eich taith gwaith cymdeithasol. Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yn eu trydedd flwyddyn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig cyfle i ddechrau fel gweithwyr cymorth heb gymhwyso. Ar ôl cymhwyso, byddwch chi wedyn yn cael eich penodi fel gweithiwr cymdeithasol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni’n gofyn bod gennych chi’r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd. Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r cymhwyster Cadarnhau Ymarfer o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Margaret Thomas ar 01685 846454 neu ebost:
thomam7@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.