Oriau gwaith: 37 oriau
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol am 2 flynedd
Lleoliad: Tŷ Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cefnogaeth ar draws y Tîm Teulu a Ffrindiau ehangach
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771, yn ogystal â thaliad atodol ar sail y farchnad o £3,551 y flwyddyn, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. -
Rydyn ni’n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol ar gyfer y Tîm Teuluoedd a Ffrindiau, sy’n rheoli’r plant hynny sy’n destun Darpariaeth Gofal Plant Proffesiynol, trefniadau Maethu gan Berthnasau a phlant ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu ac adolygu anghenion cymorth y plant a'u rhieni/gofalwyr. Bydd gofyn i chi fynychu'r llys i sicrhau bod y gorchymyn mwyaf priodol ar waith, hynny yw, wrth ystyried dirymu Gorchmynion Gofal neu drosi Gorchmynion Gofal yn Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Mae hefyd nifer fechan o Ofalwyr Maeth Teuluoedd a Ffrindiau yn cael eu goruchwylio yn y tîm gyda'r nod o sicrhau Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig i'r plant yn eu gofal.
Bydd gennych chi sgiliau asesu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd yn effeithiol, gyda ffocws ar les a diogelwch y plentyn. Byddwch chi'n fedrus wrth ddatblygu a chynnal gwaith amlasiantaeth effeithiol a byddwch chi'n cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym mhob disgyblaeth. Gyda chylch gwaith sy'n rhychwantu asesu a chynorthwyo personau cysylltiedig, byddwch chi'n sicr o wynebu heriau gwahanol bob dydd. Byddwch chi’n rhan o amgylchedd tîm hynod gefnogol a bydd mynediad gennych chi at gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster rhagflaenol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Silver ar 07789371545 neu ebost SILVER@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,551 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.