Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma. Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd â brwdfrydedd dros amddiffyn hawliau oedolion agored i niwed? Rydym yn chwilio am
Swyddog Diogelu Llys Gwarchod ymroddedig i ymuno â'n tîm ac arwain ar asesiadau o dan y
Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r
Diogelu rhag Colli Rhyddid (CoP DoLS).
Cyfrifoldebau Allweddol: - cynnal asesiadau galluedd meddyliol cymhleth a pharatoi adroddiadau ar gyfer y Llys Gwarchod
- sicrhau trefniadau colli rhyddid cyfreithlon a chymesur
- darparu cyngor a thystiolaeth arbenigol mewn achosion cyfreithiol
- gweithio ar y cyd â gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol proffesiynol i gynnal hawliau a buddiannau gorau unigolion
Gofynion: - Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol a chofrestru gyda Social Work Cymru
- gwybodaeth gref am y Ddeddf Galluedd Meddyliol, DoLS, a phrosesau'r Llys Gwarchod
- sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ysgrifennu adroddiadau rhagorol
Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf!
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso) Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymhwyso) Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Claire James:
Claire.james@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy