Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol am 24 mis
Lleoliad: Tŷ Tredomen
Tîm: Tîm 16 oed ac yn hŷn
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771, yn ogystal â thaliad atodol ar sail y farchnad o £3,551 y flwyddyn, ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn swydd gwaith cymdeithasol o fewn y tîm 16+, gyda rôl benodol i gynorthwyo pobl ifanc mewn gofal sy'n Blant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches.
Bydd y rôl yn gofyn i chi gynorthwyo pob plentyn 16 oed a hŷn sy'n ceisio lloches ac yn derbyn gofal i bontio’n llwyddiannus i fyd oedolion. Yn ogystal, bydd y cymorth yn cynnwys pobl ifanc 18 oed a hŷn sy’n gadael gofal wrth iddyn nhw bontio i fyd oedolion ac i baratoi pobl ifanc gyda chanlyniadau eu statws mewnfudo.
Yn y rôl hon, bydd gofyn i chi ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â phob agwedd ar y broses asesu a rheoli gofal sy'n diwallu anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Profiad o waith rhyng-asiantaeth.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 07354 168026 neu ebost:
willik19@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.
Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,551 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.