Mae'r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2026.Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma . Mae Cyngor Sir Ceredigion yn trawsnewid y ffordd y mae unigolion a theuluoedd yn derbyn cymorth cynnar a gofal a chymorth pan fydd ei angen arnynt. Rydym yn gweithio fel gwasanaethau llesiant a thrwy gydol oes, gyda dulliau newydd o weithio ac amrywiaeth o fentrau cyffrous a fydd yn helpu i sicrhau gwytnwch unigolion a chymunedau. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod am adeiladu gweithlu hyblyg a medrus a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Ein nod ar gyfer y dyfodol yw datblygu gwasanaethau gydol oed cydgysylltiedig gyda phwyslais cryf ar atal ac rydym am baratoi staff i gefnogi plant ac oedolion gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau. O ganlyniad i hyn, mae cyfleoedd cyffrous wedi codi am swyddi gweithwyr cymdeithasol â chymhwyster a heb gymhwyster.
Ar hyn o bryd, rydyn yn chwilio am:
- Weithwyr Cymdeithasol Cymwysedig profiadol;
- Gweithwyr Cymdeithasol newydd gymhwyso;
- Gweithwyr Cymorth (heb gymhwyster mewn Gwaith Cymdeithasol).
Rydym yn ymdrechu i weithio ac i ddatblygu gwasanaethau mwy di-dor ac i ehangu gwybodaeth a sgiliau staff mewn modd sy'n cwmpasu pob oedran. Wrth weithio fel un tîm gofal cymdeithasol, byddwn hefyd yn cryfhau ein perthynas ag asiantaethau eraill megis Iechyd ac Addysg yn ogystal â sefydliadau'r trydydd sector.
O fewn y tîm anableddau, bydd cyfle hefyd i ddatblygu arbenigeddau megis gweithio gyda oedolion neu blant ag awtistiaeth, anawsterau dysgu ac anableddau corfforol.
Bydd ymuno â Thîm Ceredigion yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi ddatblygu yn broffesiynol, dod â syniadau newydd i'r tîm a chyfrannu'n uniongyrchol at strategaeth y gwasanaeth, gan hyrwyddo'r diwylliant dysgu a myfyrio mewn amgylchedd cefnogol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso) Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymwysedig)Cysylltwch â ni Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon ffoniwch Claire James ar
Claire.James@ceredigion.gov.ukNoder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy