Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Amfwyowybodaeth,anfonwche-bostat adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Amfwyowybodaetham sir Ceredigiona'rfforddofywragorolymae'neigynnig,cliciwch yma. Am y Rôl Fel
Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn:
- darparu arbenigedd gwaith cymdeithasol ar draws pob grŵp oedran i unigolion ag anableddau
- arwain ar waith achos cymhleth, gan sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- cynnig arweiniad proffesiynol a helpu i ddatblygu arferion gorau
- gweithio ar y cyd â theuluoedd, gofalwyr a phartneriaid amlasiantaethol i hyrwyddo annibyniaeth a lles
Amdanoch Chi Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig
- yn meddu ar wybodaeth am ddeddfwriaeth ac arfer gorau mewn gwasanaethau anabledd
- yn dangos sgiliau cyfathrebu a datrys problemau da
- yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo hawliau unigolion
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i wreiddio Fframwaith Arferion Arwyddion Diogelwch a Lles. Rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac mewn hyfforddi ein staff i adnabod ac i reoli risg o niwed yn ddiogel, gan adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Pan fo'n bosibl, rydym yn chwilio am unigolion sydd â gradd o hyfedredd yn y Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon dymunol o fewn dwy flynedd i'w benodiad.
Ein Cynnig i Chi Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu:
- cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o brif feysydd cyfrifoldeb y rôl hon
- cyfleoedd ar gyfer datblygiad parhaus er mwyn i chi allu symud ymlaen yn eich gyrfa gyda ni
Yn gyfnewid am eich sgiliau ac ymrwymiad, rydym yn cynnig ystod o fuddion:
- Trefniadau gweithio hyblyg.
- Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol.
- Cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%.
- Buddion teulu gwell.
- Cynilion ar ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso) Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymhwyso) Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion Am fwy o fanylion cysylltwch a:
Claire.james@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy