Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Cymdeithasol (Tîm Asesu) Swydd-ddisgrifiad Am y rôl:
Prif rôl y Gweithiwr Cymdeithasol Dyletswydd ac Asesu yw cynnal asesiadau Gofal a Lles ac ymchwiliadau Amddiffyn Plant Adran 47. Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i chi fod yn rhan o rota dyletswydd lle rydych ar ddyletswydd yn gyffredinol am 2 ddiwrnod yr wythnos (gogledd). Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac yn gweithio'n fyfyriol iawn ac yn agored gyda'i gilydd. Mae pawb yn gwerthfawrogi goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol ar achosion lle gellir rhannu syniadau a gwybodaeth. Rydym yn symud achosion drwodd i'r cyfarfod gofal a chymorth cyntaf, cynhadledd amddiffyn plant gychwynnol, adolygiad cychwynnol mewn gofal neu'r gwrandawiad cychwynnol.
Yn gyffredinol, mae'r Tîm yn gweithio o ddwy ganolfan - Y Drenewydd neu Y Trallwng. Swyddfa'r Drenewydd yn aml yw'r swyddfa fwyaf prysur ac mae'r tîm yn gwerthfawrogi gweithio yn y swyddfa tra'n cael yr hyblygrwydd o weithio o adref.
Amdanoch chi:
Bydd angen y sgil ar unrhyw Weithiwr Cymdeithasol sy'n gwneud cais am swydd yn y tîm asesu i gefnogi teuluoedd i ddod o hyd i atebion i unrhyw angen sydd gan blentyn neu risg y gallai plentyn ei wynebu. Gallu hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith teuluol a defnyddio cwestiynau sy'n seiliedig ar gryfder i gael ffyrdd o reoli neu leihau risgiau. Mae dangos ymrwymiad a hyblygrwydd at waith achos yn bwysig iawn wrth weithio mewn tîm dyletswydd ac asesiad a bydd angen sgiliau ar yr ymgeisydd er mwyn gallu blaenoriaethu tasgau a chyflawni amserlenni ar gyfer asesiadau.
Eich dyletswyddau:
Prif rôl y Gweithiwr Cymdeithasol Dyletswydd ac Asesu yw cynnal asesiadau Gofal a Lles ac ymchwiliadau Amddiffyn Plant Adran 47. Byddwch yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner lle mae perthnasoedd da eisoes wedi'u datblygu ac mae'r timau'n gweithio'n dda iawn gyda chydweithwyr yn yr Heddlu, iechyd ac addysg. Mae'm yn defnyddio Cynllunio Diogelwch gyda theuluoedd sydd â'r grym I geisio atebion I sefyllfaoedd lle gellid ystyried bod lenty mewn angen neu mewn perygl. Bydd eich rôl yn cynnwys hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith teuluol I gefnogi teuluoedd I greu diogelwch o amgylch eu plant. Ein hethos yw grymuso teuluoedd a, lle bo angen, chwilio am yr adnoddau a'r gwasanaethau I ddiwallu anghenion eu lenty.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr