Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am weithwyr proffesiynol medrus, llawn cymhelliant, gweithwyr profiadol neu'r rhai sydd newydd gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol a all greu newidiadau cadarnhaol yn y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n rhagori mewn lleoliad llawn dychymyg sy'n canolbwyntio ar y plentyn, efallai mai dyma'r cyfle iawn i chi.
Mae'r Tîm Asesu a Chefnogi wedi ymrwymo i wella safonau cefnogaeth i Blant a'u Teuluoedd gan gynyddu'r adnoddau sydd ar gael i'r Gweithiwr Cymdeithasol a chadw nifer yr achosion sydd ganddynt ar lefel ddichonadwy a phriodol ar gyfer eu sgiliau a'u profiad.
Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chefnogaeth, plant sydd angen eu hamddiffyn, Plant sy'n Derbyn Gofal a phlant sy'n agored i Achosion Cyfreithiol Cyhoeddus a Phreifat. Mae'r tîm yn ymdrin â rhywfaint o gyfraith breifat, fodd bynnag, caiff Achosion eu trosglwyddo i'n tîm cyfreithiol arbenigol ar y pwynt Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Un o'n prif nodau yw lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal - oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol. Er mwyn cyflawni hyn mae gennym adran hynod ymroddedig o weithwyr cymdeithasol, a gefnogir gan y Tîm Cefnogi Teuluoedd sydd wedi ennill gwobrau yn ogystal â gweithwyr ymyriadau teuluol a seicolegwyr mewnol, Therapyddion Galwedigaethol ASD a gweithwyr therapiwtig. Yn ogystal â hyn, fel Gweithiwr Cymdeithasol gallwch dynnu ar gefnogaeth un/dwy uned breswyl fewnol sydd â gweithwyr allgymorth sy'n gallu cefnogi plant naill ai gartref neu mewn lleoliad.
Yn y ddau dîm, byddwch yn cael cefnogaeth eich cydweithwyr; mae yna gymhareb uchel o reolwyr tîm i weithwyr a strwythur rheolaeth atebol cyfeillgar ac agored. Mae pob aelod staff yn gweithio oriau hyblyg.
Mae datblygu gyrfa yn bwysig i Gonwy ac mae yna lwybr clir ar gyfer datblygiad i weithwyr sydd newydd gymhwyso neu sy'n fwy profiadol e.e. CPEL/Porth Agored a Hyfforddiant Cydymchwiliad gyda'r Heddlu. Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a bydd goruchwyliaeth anffurfiol, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd Datblygu Gyrfa ar gael drwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer swyddi parhaol.
Mae'r mwyafrif o swyddogion yr Awdurdod Lleol bellach wedi eu lleoli o fewn ein hadeilad newydd, cynllun agored o'r radd flaenaf yng Nghoed Pella, Bae Colwyn. Un o brif fanteision hyn yw'r agosrwydd at adrannau partner fel Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai, Gwasanaethau Oedolion a llawer mwy.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gydweithio gyda theuluoedd ac annog Gwaith Uniongyrchol nid Gwaith Papur gymaint â phosibl.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod ag BA/MA mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd a byddai'n fanteisiol petai gan ymgeiswyr brofiad o weithio yn y llys ar gyfer swydd gyda'm Diogelu a Chyfreithiol.
Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae'r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a'r Gymraeg yn ddymunol.
Sylwch nad ydym yn sefydliad noddi ar hyn o bryd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Mark Devereux, Rheolwr Adain (014925 75269 / Mark.devereux@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr