Gweithiwr Cymdeithasol (Tîm Derbyn Oedolion)
Cyflogwr
Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council
Lleoliad
-
Sir Benfro
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Rhan Amser
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Tîm Derbyn sydd newydd ei ffurfio, ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwys i gwblhau'r tîm. Tîm Derbyn yn ei hanfod yw 'drws ffrynt' Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn Sir Benfro. Mae'm yn darparu sgrinio ac asesiadau cychwynnol ar gyfer pob dinesydd newydd. Rydym hefyd yn darparu cymorth brys i ddinasyddion agored i niwed a'u gofalwyr ar adegau o angen.Mae aelodau tîm yn gweithio mewn ffordd gydweithredol ac amlddisgyblaethol, gan ganolbwyntio ar gefnogaeth gymunedol ac ymarfer yn seiliedig ar gryfderau, gan ddefnyddio sgiliau a gwerthoedd gwaith cymdeithasol i asesu ac adolygu angen. Mae goruchwyliaeth broffesiynol fisol, ynghyd â chefnogaeth reoli ar y safle a chyfleoedd hyfforddi blaengar yn gwneud y tîm hwn yn lle anogol i ddatblygu a chefnogi ymarfer gwaith cymdeithasol proffesiynol. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu â Sarah Hanley, Rheolwr Tîm - sarah.hanley@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 775890
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.