Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
££- 38,220 - £- 40,777 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ynglŷn â'r Rôl Gweithiwr Cymdeithasol
37 awr yr wythnos
Mae hon yn swydd lawn amser barhaol i weithiwr cymdeithasol yn Nhîm Gadael Gofal Wrecsam.
Byddwch wedi ymrwymo i rianta corfforaethol, ymarfer yn seiliedig ar berthnasoedd fel arweinydd canlyniadau a phontio cadarnhaol. Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma yn ganolbwynt i'ch ymarfer. Hefyd disgwylir i chi fodelu ymarfer gorau a mentora gweithwyr yn eich tîm. Byddwch yn ymuno â thîm sefydledig sy'n perfformio'n dda gyda chefnogaeth ardderchog. Rydym yn anelu i ddatblygu gwasanaeth hyd yn oed yn well yn dilyn ein hymweliad gan AGC yn 2024, cafodd y Tîm Gadael Gofal eu cydnabod ar gyfer y perthnasoedd cadarnhaol a ddatblygwyd rhwng gweithwyr cymdeithasol a'n pobl ifanc. Rydym yn parhau i ddatblygu ein cryfderau a pharhau i ddatblygu tîm sy'n cynnwys:
• Gweithlu angerddol a medrus sy'n galluogi rhai sy'n gadael gofal i wneud cynnydd da ac elwa o brofiadau cadarnhaol
• Canolbwynt ar bontio effeithiol ar gyfer pobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed gyda chefnogaeth i ddatblygu hyder a sgiliau bywyd i ymdrin â chyfleoedd a heriau bod yn oedolyn.
• Sicrhau bod anghenion llety yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn i'r bobl ifanc deimlo'n ddiogel a bod eu dymuniadau o ran lleoliad yn cael eu parchu er mwyn iddynt gynnal perthnasoedd gyda phobl sy'n bwysig iddynt
• Mynediad at nifer o ddarpariaethau camu i lawr mewnol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal gyda'r nod o ddatblygu mwy o ddarpariaethau
• Mae canolbwynt clir ar addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc o bob gallu i ddewis y llwybr priodol i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd pan f ônt yn gadael gofal
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
• Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol o safon sy'n cefnogi plant i gyflawni eu potensial a phontio'n llwyddiannus i fyw bywyd fel oedolyn.
• Rheoli nifer o bobl ifanc yn effeithiol i gyflawni'r canlyniadau gorau iddynt.
• Modelu ymarfer gorau a mentora eraill.
• Dangos ymrwymiad cadarn i rianta corfforaethol.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc a chynnal perthnasoedd, adnabod anghenion, a datblygu cynlluniau ac ymatebion sy'n bodloni'r anghenion hynny.
Pa sgiliau a phrofiad ydych eu hangen?
• Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar hyn o bryd (cyfeiriwch at y swydd ddisgrifiad a'r manylion am yr unigolyn i gael mwy o wybodaeth).
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gydag agwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran datblygu cysylltiad a pherthnasoedd gyda phlant a theuluoedd.
• Gallu myfyrio ar ymarfer a datblygiad eich hun gan alluogi ymarfer gwaith cymdeithasol hyblyg a meddylgar a newid cadarnhaol.
• Profiad o waith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar berthynas.
Yn Wrecsam credwn y dylid gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad i'ch swydd, felly rydym yn cynnig pecyn i'n gweithwyr cymdeithasol a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi a'ch gwerthfawrogi:
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
• Llwythi achos y gellir ymdopi â nhw
• Swyddfeydd wedi eu hadnewyddu
• Rheolwyr gweledol, cefnogol a phenderfynol.
• Ystod eang o ddyraniadau sy'n darparu gyrfa gyffrous, heriol a llawn gwobr
• Arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol sy'n helpu i ostwng y risg i'n gweithwyr cymdeithasol a'r plant a theuluoedd a gefnogant.
• Goruchwyliaeth ardderchog a rhwydwaith cyfoedion cefnogol
• Mynediad at ystod ardderchog o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad.
Os hoffech siarad gyda rhywun yn anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â'r Rheolwr Tîm; [email protected]
Pa fuddion ydym yn eu cynnig i chi?
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
• Gwyliau blynyddol a chynllun oriau hyblyg hael
• Treuliau teithio
• Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
• Cynllun beicio i'r gwaith
Oherwydd bod y swydd hon yn golygu cyswllt â phlant a/neu oedolion diamddiffyn, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn atal ymgeisydd rhag cael y swydd hon, gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol yn ôl natur y swydd a'r wybodaeth a ddarperir.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â'r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â'r rôl hon.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu
Mae gennym radd gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n golygu y gellir penodi ymgeisydd llwyddiannus i fod yn Weithiwr Cymdeithasol (G09) neu'n Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (G10), yn dibynnu ar ddyfarniadau / cymwysterau arbenigol neu dystiolaeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad cyfatebol. Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person am ragor o fanylion a chadarnhewch ar ddechrau'r adran Datganiad Profiad yn y ffurflen gais pa rôl rydych chi'n gwneud cais amdani.
Peidiwch â phoeni os nad ydych ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf / gofynion o ran profiad cyfatebol ar gyfer y swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithwyr cymdeithasol ac mae'n cynnig amgylchedd rheoli cefnogol a fframwaith dilyniant i weithwyr cymdeithasol er mwyn cefnogi datblygiad eich gyrfa yn y dyfodol. Amdanom Ni Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys: • Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Trefniadau gweithio hyblyg • Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod • Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol • Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl) • Aelodaeth hamdden gostyngol • Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol • Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft: • Hyrwyddwyr Iechyd a Lles • Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol: • Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn) • Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn) • Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy • Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd • Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant • Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol • Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
• Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol) • Caffi Menopos ac arweiniad • Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023-28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain: • Grymuso • Ymddiriedaeth a gonestrwydd • Dyhead • Cydweithredu • Gwneud gwahaniaeth • Tegwch
The County Borough of Wrexham, located in North East Wales, is proud of its Welsh heritage and cultural identity. Over the years it has grown to reflect a population that is multi-religious and multi-ethnic and complements the diversity of our communities.
Centred on the city of Wrexham, which nestles between the Welsh mountains and the Cheshire plains, it's a location that really can offer you the best of both worlds and we are proud of our city status (awarded in 2022 when we became the seventh city in Wales).
Wrexham County Borough Council is a unitary Council which delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
The council is an inclusive employer with a workforce of around 5,500, offering diverse roles, training and development and rewarding career opportunities. Wrexham County Borough Council values innovation, bilingualism in English and Welsh, and welcomes applicants from all backgrounds.
As a Disability Confident Committed Employer, the council ensures accessible recruitment and support for disabled employees including offering a guaranteed interview (where essential person specification items are met). Additionally, veterans will receive guaranteed interviews under the Armed Forces Covenant if eligibility criteria are met (where essential person specification items are met).
Employee benefits include: • Membership in the Local Government Pension Scheme • Flexible working arrangements • Generous annual leave up to 32 days • Family-friendly policies supporting caring and family commitments • Work-life balance and flexi time (dependent on role) • Discounted leisure membership • Access to Wrexham Reward Scheme with discounts off leading retailers nationally and locally • Health & well-being resources, for example: • Healthy & Wellbeing Champions • Employee assistance programme with advice on staying healthy financially, mentally or physically: • Counselling (available 24/7, 365 days a year) • In-the-moment emotional support (available 24/7, 365 days a year) • Option to set health-boosting goals with small, sustainable lifestyle changes • Connect health apps to track physical health and meet progress goals • Blogs, videos, recipes and more resources providing inspiration and motivation • Identify risks of developing leading lifestyle-related diseases with mental health and financial scores • Legal, financial and consumer advice
• Health and wellbeing events and campaigns throughout the year (e.g., November Health Day, Time to Talk Day, Mental Health Awareness Week, Sun Awareness Week, Menopause Week, Financial Health Week) • Menopause Café and guidance • Unpaid Carer Café and guidance
Our Council Plan (2023-28) sets out our priorities for this period and we deliver these by following the Nolan Values of public life (selflessness, integrity, objectivity, accountability, openness, honesty and leadership) as well as our own Corporate Values: • Empowerment • Trust and honesty • Aspiration • Collaboration • Making a difference • Fairness
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr