Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae gan adran Oedolion a Chymunedau swydd wag ar hyn o bryd yn y Tîm Iechyd Meddwl Oedolion. Mae gweithio amlasiantaethol yn nodwedd arwyddocaol o'r Tîm Iechyd Meddwl. Mae'r tîm wedi'u lleoli ar y cyd gyda'm Iechyd Meddwl Cymunedol ac mae'n darparu cefnogaeth a gwasanaethau dan arweiniad y Mesur Iechyd Meddwl i ddinasyddion yn Nhorfaen. Mae'm yn arloesol ac yn gweithio mewn dull sy'n seiliedig ar gryfderau, gyda'r unigolyn yn parhau i fod wrth wraidd unrhyw gymorth / cynllunio, a ffocws ar adfer a chymryd risg cadarnhaol. Rydym yn darparu amgylchedd dysgu ymroddgar a chefnogol, ac un sy'n gwerthfawrogi ymarferwyr ac yn hyrwyddo'u datblygiad.
Y Tîm:
Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn y tîm Iechyd Meddwl byddwch yn: • gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn perthynas â chynnal asesiadau, datblygu datganiadau ar gyfer y llys a llunio cynlluniau gofal, asesiadau risg a mynychu tribiwnlysoedd. • Sicrhau bod beichiau achosion yn cael eu rheoli mewn ffordd gefnogol ac yn adlewyrchu set sgiliau, datblygiad a phrofiad. • Cael mynediad at seilwaith rheolwyr cefnogol sydd â chyfoeth o brofiad ac sy'n hawdd mynd atynt am gyngor, cefnogaeth a phenderfyniadau. • Magu profiad o weithio mewn lleoliad aml-asiantaeth a gyda gwasanaethau / gweithwyr proffesiynol eraill. • Cael mynediad at hyfforddiant ôl-gymhwyso a chyrsiau hyfforddiant ehangach. • Cael mynediad at oruchwyliaeth fisol Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Louise Sheward, Arweinydd Tîm ar 01633 7647354 neu anfonwch e-bost at louise.sheward@torfaen.gov.uk Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr