Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol cymwys, sy'n chwilio am newid? Yn dilyn adolygiad o'r Tîm Lleoli Teuluoedd, mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol mewn cymorth i Ofalwyr Maeth ac mae Swyddi Gweithwyr Cymdeithasol ychwanegol wedi cael eu creu.
Gyda dros ddwy ran o dair o'n Plant sy'n Derbyn Gofal yng ngofal gofalwyr maeth, os ydyn ni am wella canlyniadau i Blant sy'n Derbyn Gofal yna rhaid i ni ddechrau trwy wella gofal maeth.
Rydym yn awyddus i groesawu Gweithiwr Cymdeithasol brwdfrydig i'r tîm, i wella'r cymorth yr ydym yn ei roi i'n gofalwyr maeth a gweithio ochr yn ochr ag aelodau profiadol o staff wrth i ni ymdrechu i recriwtio a chadw gofalwyr maeth o fewn y gwasanaeth.
Byddwch yn ymuno â thîm o Weithwyr Cymdeithasol profiadol, Gweithwyr Cymorth Cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill, sydd wedi'i sefydlu'n dda, a thîm rheoli profiadol.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Natasha Price ar 01495766612 neu Natasha.Price@torfaen.gov.uk
Mae'r swydd hon yn gofyn am gofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae Torfaen yn hyrwyddo Polisïau sy'n Ystyried Teuluoedd ac yn defnyddio gweithio gartref ac oriau hyblyg, lle y bo'n briodol.
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr