Oriau gwaith: 1 x 18.5 Oriau / 1 x 37 Oriau
Math o gontract: 1 x Parhaol, Rhan Amser / 1 x Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Maethu'r Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,576 - £20,885 (18.5 awr) / £39,152 - £41,771 (37 awr) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau asesu a dadansoddi rhagorol a'r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol â Gofalwyr Maeth, eu teuluoedd a phlant sy'n derbyn gofal. Byddwch chi’n canolbwyntio ar les a diogelwch plant ac yn gallu cynorthwyo ac arwain Gofalwyr Maeth i adeiladu ar eu sgiliau cyfannol yn ogystal ag ymrwymiad i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae’r tîm yn gyfrifol am recriwtio, asesu, cynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth cyffredinol, ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig o aelodau’r teulu/personau cysylltiedig ar gyfer plentyn na all, neu o bosibl na fydd yn gallu aros gyda’i deulu biolegol.
Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Tîm Maethu wedi cael eu gwahanu. Mae hanner y tîm yn gyfrifol am gynorthwyo, goruchwylio ac adolygu gofalwyr maeth presennol a'r rhai sydd newydd gael eu cymeradwyo. Mae hanner arall y tîm yn gyfrifol am recriwtio ac asesu gofalwyr maeth cyffredinol ochr yn ochr â chwblhau Asesiadau Personau Cysylltiedig.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod ag o leiaf 2 flynedd o brofiad o Waith Cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd angen i chi fod â sgiliau cyfathrebu a TG da.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol. Mae'n ofynnol i Weithwyr Cymdeithasol sy'n cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r cymhwyster Cadarnhau Ymarfer o fewn y tair blynedd gyntaf o ymarfer.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ymchwil ac Ymarfer deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol â phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
- Trwydded yrru lawn Categori B (ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
-
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Carla Perry/Colette Limbrick ar 07789371781/07918423530 neu ebost:
perrycl@caerphilly.gov.uk limbrc@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall). r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.