Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i gyfrannu'n uniongyrchol at wella canlyniadau i blant a theuluoedd. Byddwch yn dod ag arbenigedd proffesiynol, syniadau newydd, ac ymrwymiad i ymarfer myfyriol, gan gefnogi diwylliant o welliant parhaus ar draws ein gwasanaethau.
Y rôl Fel rhan o'n Tîm Rheoli Gofal Plant, byddwch yn:
- Cyflwyno ymarfer gwaith cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ac asiantaethau partner
- Cefnogi datblygiad gwasanaethau a hyrwyddo arfer gorau
- Manteisio ar strwythur rheoli cefnogol sy'n blaenoriaethu datblygiad proffesiynol a llesiant staff
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig Yn ogystal â chyflog cystadleuol, byddwch yn elwa o'r canlynol:
- Taliad croeso euraid o £3,000
- Taliad cymhwysedd proffesiynol o £3,000 (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol)
- Gwyliau Blynyddol hael - yn dechrau ar 26 diwrnod ac yn cynyddu i 31 ar ôl pum mlynedd o wasanaeth
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - buddion wedi'u diffinio ar sail cyfartaledd gyrfa
- Opsiynau ar gyfer gweithio hyblyg a gweithio ystwyth
- Adnoddau iechyd a llesiant helaeth, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chwnsela mewnol
- Tâl mamolaeth a thadolaeth galwedigaethol gwell
- Mynediad at ddisgowntiau i weithwyr ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau ac atyniadau, gan gynnwys canolfannau hamdden
- Cynlluniau aberthu cyflog ar gyfer prynu car neu feic
- Pecyn adleoli hyd at £8,000, a all gynnwys cymorth rhent, symud a storio, a ffioedd cyfreithiol neu forgais
Byw yn Sir Benfro Mae Sir Benfro yn cynnig ansawdd bywyd unigryw, gyda'i
harddwch naturiol eithriadol, ffordd o fyw arfordirol, a chymunedau croesawgar. Dyma gyfle i ddatblygu eich gyrfa wrth fwynhau holl fanteision byw a gweithio yn un o ranbarthau mwyaf deniadol y DU.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person. Gwiriadau Cyflogaeth Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag. DiogeluMae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol - Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.