Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Llawn Amser
Lleoliad: Ty Tredomen
Tîm: Tîm Teulu a Ffrindiau
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £39,152 - £41,771 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r swydd hon yn denu Atodiad Marchnad o £3,551 y flwyddyn, yn ychwanegol at y cyflog blynyddol, a fydd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol.
Rydyn ni’n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol sy’n rheoli’r plant hynny sy’n destun cael eu lleoli yng ngofal eu rhieni (PCCP), trefniadau Maethu gan Berthnasau a phlant ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am asesu ac adolygu anghenion cymorth y plant a'u rhieni/gofalwyr. Bydd gofyn i chi fynychu'r llys i sicrhau bod y gorchymyn mwyaf priodol ar waith, hynny yw, wrth ystyried dirymu Gorchmynion Gofal neu drosi Gorchmynion Gofal yn Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.
Bydd gennych chi sgiliau asesu rhagorol a'r gallu i ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd yn effeithiol, gyda ffocws ar les a diogelwch y plentyn. Byddwch chi'n fedrus o ran datblygu a chynnal gwaith amlasiantaeth effeithiol a byddwch chi'n cydweithio â gweithwyr proffesiynol ym mhob disgyblaeth.
Gyda chylch gwaith sy'n rhychwantu asesu a chynorthwyo Personau Cysylltiedig, byddwch chi'n sicr o gael heriau gwahanol bob dydd! Byddwch chi’n rhan o amgylchedd tîm hynod gefnogol a bydd mynediad gennych chi at gyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ymchwil, Ymarfer a deddfwriaeth gyfredol ym maes gofal plant.
- Wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu reoleiddwyr cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Trwydded yrru lawn Categori B (ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Silver/Sam Thomas ar 07789371545/ 01443 863476 neu ebost:
silver@caerphilly.gov.uk thomas24@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid i chi feddu ar Ddiploma/Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu ragflaenydd a bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu'n gallu trosglwyddo o gorff cydnabyddedig arall).
Mae’r gofynion cofrestru presennol yn nodi bod cwblhau’r cymhwyster Cydgrynhoi Ymarfer o fewn eich 3 blynedd gyntaf o ymarfer yn orfodol (os gwnaethoch gymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016). Bydd methu â chwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn golygu na fyddwch yn gallu adnewyddu eich Cofrestriad Gwaith Cymdeithasol neu ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol.