Ymunwch âm deinamig a chefnogol ym Mlaenau Gwent a'n helpu i gyflawni ein cenhadaeth o rymuso dinasyddion a'u teuluoedd i fyw bywydau annibynnol a boddhaus. Fel rhan o Dîm Gofal Cymunedol y Dwyrain a'r Gorllewin, cewch gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau oedolion sydd angen cefnogaeth i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol yn ein tîm, byddwch yn asesu anghenion dinasyddion a gofalwyr, ac yn cynllunio, gweithredu, adolygu a gwerthuso canlyniadau. Gan weithio dros a gydag unigolion, byddwch yn ofalus i ddeall eu hamgylchiadau a blaenoriaethau unigryw.
Drwy hyrwyddo egwyddorion dewis a rheoli, byddwch yn cefnogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Diolch i chi, cânt eu grymuso i gael gwasanaethau wedi eu trefnu a risgiau wedi eu rheoli mewn ffyrdd sy'n iawn iddyn nhw.
I gynnal eich safonau proffesiynol yn barhaus wrth i'n gwasanaeth barhau i ddatblygu, byddwch yn cadw llygad fanwl ar newid mewn anghenion. O ddatblygu ac adolygu cynlluniau a darpariaeth cymorth, i alluogi defnydd creadigol o adnoddau yn cynnwys technoleg gynorthwyol, byddwch yn darparu gofal cymdeithasol sydd bob amser yn addas ar gyfer yr unigolyn.
Eich prif bwrpas fydd gweithio'n agos gydag unigolion a'u teuluoedd, gan hyrwyddo eu lles ac annibyniaeth yn unol ag arfer gorau a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gyda chefnogaeth ac ysbrydoliaeth ein tîm, cewch eich grymuso i ddefnyddio eich creadigrwydd ac ymroddiad i helpu unigolion gyflawni eu nodau a chyrraedd eu potensial llawn.
Rydym yn cynnig pecyn cynhwysfawr o fuddion, yn cynnwys: - Cyflog cystadleuol
- Mynediad i gynllun pensiwn hael
- Darpariaethau gwyliau blynyddol ac absenoldeb arbennig hael
- Trefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys y gallu i weithio oriau a lleoliadau hyblyg (lle'n berthnasol)
- Ystod eang o bolisïau cyfeillgar i'r teulu i gefnogi cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd
- Cynllun buddion cyflogeion sy'n rhoi mynediad i ostyngiadau a chynigion mewn gwahanol gwmnïau
- Mynediad i'n Rhaglen Cymorth Cyflogeion
- Disgownt ar aelodaeth campfa Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu i gefnogi eich twf proffesiynol a chynnydd gyrfa
Mae cyfrifoldebau cyffrous o'ch blaen, tebyg i: - Cynnal asesiadau gwaith cymdeithasol cynhwysfawr i ennill dealltwriaeth ddwfn o anghenion yr unigolyn a chreu cynlluniau gofal wedi eu personoli.
- Cydweithio gydag unigolion a'u teuluoedd i hybu eu lles a'u hannibyniaeth, gan ddefnyddio eich sgiliau a'ch gwybodaeth i'w helpu i gyflawni eu nodau.
- Darparu gwasanaethau cynllunio gofal a rheoli rhagorol i ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd, gan sicrhau y caiff eu hanghenion eu cyflawni'n llawn a'u bod yn derbyn yr ansawdd uchaf o ofal.
Sgiliau a Chymwysterau: - Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau'r safonau uchaf o ymarfer proffesiynol.
- Diploma, gradd neu ôl-radd mewn Gwaith Cymdeithasol sy'n dangos eich gwybodaeth ac arbenigedd fanwl yn y maes..
- Profiad o weithio aml-ddisgyblaeth i gydweithio'n effeithlon gyda gweithwyr proffesiynol eraill a darparu gofal o'r ansawdd uchaf i ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Gwybodaeth o'r ddeddfwriaeth, canllawiau a rheoliadau diweddaraf yng nghyswllt Gwasanaethau Oedolion, gan eich galluogi i gadw'n gyfoes gyda'r tueddiadau diweddaraf ac arfer gorau.
Os ydych yn angerddol am ddarparu gofal rhagorol a chyfoethogi bywydau'r rhai mewn angen, dyma'r swydd i chi! Mae'n ofyniad cael mynediad i gerbyd ar gyfer dibenion gwaith.
Cynhelir sgrinio cyn-cyflogaeth trwyadl yn ystod y broses recriwtio. Bydd angen i ddeiliad y swydd lenwi cais am Ddatgelu Cofnodion Troseddol. Dyddiad Cau: 06/04/2026 Dyddiad Cyfweliadau: I'w gadarnhau