Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Ydych chi'n weithiwr cymdeithasol cymwys sydd eisiau gweithio'n wahanol gyda theuluoedd, gan eu cefnogi i wneud newid trwy weithio ar y cyd â theuluoedd a'u gweithiwr achos cyfrifol?
Rydym yn Awdurdod Lleol blaengar, systemig a chefnogol sy'n chwilio am weithiwr cymdeithasol profiadol i ymuno â'n Tîm Cefnogi Newid. Os ydych chi'n angerddol am weithio o fewn dull systemig teulu cyfan i helpu teuluoedd i lywio a lleihau eu risgiau fel y gallant barhau i fod yn uned deuluol, heb fod â chyfrifoldeb rheoli achosion, yna dyma'r rôl i chi.
Trwy ymgymryd â sesiynau gwaith uniongyrchol therapiwtig gyda theuluoedd, nod y rôl yw ymgysylltu â theuluoedd mewn pecynnau dwys o gymorth i gynorthwyo teuluoedd i wneud newid cynaliadwy cadarnhaol. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio gan ddefnyddio dulliau systemig, sy'n seiliedig ar gryfder i adeiladu perthnasoedd a chryfhau gwytnwch o fewn yr uned deuluol.
Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr fod â sgiliau a phrofiad mewn gwaith therapiwtig a chymryd yr awenau gyda phrosiectau gydag asiantaethau partner sy'n ymwneud â phlant sy'n aros yn ddiogel gartref.
Yng Ngwasanaethau Plant Merthyr, rydym yn cofleidio arferion arloesol. Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi ein gweithwyr cymdeithasol, rydym yn defnyddio Ap 'The Social Work Way' - gan symleiddio tasgau dyddiol, lleihau gwaith gweinyddol, a rhoi mwy o amser i chi ar gyfer gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd. Ymunwch â ni a phrofi'r gwahaniaeth
Rhannodd gweithiwr cymdeithasol gyda ni yn ddiweddar:
"Ers defnyddio The Social Work Way App, dydw i erioed wedi teimlo mor gyfredol gyda fy nodiadau achos. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'm ymarfer dyddiol!"
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Hayley Hodson ar 01685 725000 neu ebostiwch Hayley.Hodson@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 05.05.2025 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr