Oriau gwaith: 0 Oriau
Math o gontract: Achlysurol/ Wrth Gefn
Lleoliad: Ty Hapus
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £14.36 awr,ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rydyn ni'n anelu at ddarparu gofal a chymorth sy'n hyrwyddo dewis ac annibynniaeth ar gyfer unigolion gydag anabledd dysgu a galluogi plant a phobl ifanc i gael hwyl gydag unigolion eraill mewn lleoliad seibiant.
Rôl Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yw darparu gofal yn unol â Chynlluniau Gofal a Chynlluniau Personol Unigolion. Darparu cymorth ac arweiniad a chyflwyno pob agwedd ar ofal personol yn ôl yr angen gan unigolion, gan sicrhau bod preifatrwydd, urddas, parch, dewisiadau, annibyniaeth a hunan-barch y person yn cael eu cynnal bob amser.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio yn gynnar yn y bore, ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) neu gyfwerth yn ôl gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Neu’r gallu a'r ymrwymiad i weithio tuag at Ddiploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) o fewn amserlen benodol sy’n cael ei nodi gan y Rheolwr Tîm neu gymwysterau cyfwerth yn ôl gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i ofal o ansawdd, h.y. hybu llesiant, llais a rheolaeth plant a phobl ifanc a pharchu eu barn.
- Profiad gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion cymhleth sydd angen elfennau o gymorth.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lisa Davies/Rhys Ayres ar 01495 228839 neu ebost:
DAVIELM@CAERPHILLY.GOV.UK AYRESR@CAERPHILLY.GOV.UKGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.