Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Cymorth Ailalluogi

Dyddiad cau 29/09/2025

Cyflogwr

Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council

Lleoliad

  • Sir Benfro
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Disgrifiad o'r swydd

Oherwydd datblygiadau yn y gwasanaeth mae'r Tîm Ailalluogi yn ehangu. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych pe hoffech gael gyrfa yn cefnogi unigolion i adennill eu sgiliau a'u hannibyniaeth yn dilyn salwch neu anaf acíwt. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau bywyd bob dydd fel gofal personol, symudedd, paratoi prydau bwyd a meddyginiaeth. Arweinir y gwasanaeth gan therapyddion galwedigaethol a byddech yn darparu cymorth ac ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cleient ac ar eu nodau yn ôl y cyfarwyddyd a roddir gan y therapydd galwedigaethol. Byddwn hefyd yn creu pecynnau gofal o'r maint cywir i gefnogi unigolion i gyrraedd eu potensial mwyaf ac yn nodi anghenion gofal a chymorth hirdymor.

Rydym yn gwasanaethu Sir Benfro gyfan ac mae gennym rota dreigl pythefnos. Y patrwm shifft yw 7.30am tan 1pm a 5pm tan 9.30pm saith diwrnod yr wythnos. Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod wythnos un, a dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn wythnos dau. Bydd gwaith gyda'r nos a thros y penwythnos yn denu taliadau ychwanegol a byddech yn gweithio bob yn ail benwythnos. Rhoddir gwisg, ffôn gwaith, lwfans teithio neu fan waith, a hyfforddiant parhaus i chi. Mae'r swydd yn amrywiol ac yn ddiddorol, ac efallai y bydd angen i chi gyflenwi ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd, megis ein gwasanaeth gofal cartref, gan ehangu eich sgiliau a gwybodaeth ymhellach.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.