Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 24ain Rhagfyr 2026
Lleoliad: Ty Penallta/Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Tîm: Atebion Tai
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £28,598 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle wedi codi am swydd cyfnod penodol yn ystod cyfnod mamolaeth fel gweithiwr cymorth yn ein tîm prydlesu Allweddi Caerffili.
Bydd y rôl yn cynnwys cynorthwyo pobl i fanteisio ar lety, a'i gynnal, drwy ein cynllun prydlesu Allweddi Caerffili a chynorthwyo'r tîm i atal digartrefedd.
Os oes gennych chi brofiad o weithio gyda phobl agored i niwed ac rydych chi'n hyderus, yn gweithio'n dda mewn tîm ac ar eich liwt eich hun, yn wydn ac yn gallu rhoi'r cwsmer wrth wraidd popeth rydych chi'n ei wneud, bydden ni'n croesawu cais.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - 5 cymhwyster TGAU Gradd A*–C neu gymwysterau Lefel 2 cyfatebol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Dealltwriaeth o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â digartrefedd.
- Profiad o roi cymorth i grwpiau amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys oedolion agored i niwed a phlant mewn lleoliad llety neu leoliad cymorth lle bo'r angen.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kerry Denman ar 01443 873552 neu ebost:
denmak@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.