Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1649
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Tir Einon
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd D +8%
Cyflog:
£26,773 - £27,631
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.88 - £14.32
Oriau Contract:
30 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Mae Tir Einon yn Wasanaeth Anableddau Dysgu arobryn sydd wedi'i leoli yn Llanelli sy'n cynnig lle bywiog a hapus i weithio gyda thîm profiadol a chroesawgar. Rydym yn cynnig seibiannau byr i Oedolion ag Anableddau Dysgu, ac fel arfer rydym yn brysur iawn yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl, nid oes unrhyw ddiwrnod byth yr un fath. Ac os yw rhoi gwên ar wyneb rhywun yn gwneud eich diwrnod yna dyma'r swydd i chi!
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Arbenigol i ymuno â'n tîm sy'n angerddol ac yn gadarnhaol, ac yn unigolyn llawn cymhelliant sydd naill ai'n brofiadol neu'n newydd i ofalu, cynigir cyfnod sefydlu â thâl llawn ynghyd â holl fanteision gweithio i'r awdurdod lleol sy'n cynnwys rhaglen les, gwyliau blynyddol â thâl, pensiwn awdurdod lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a phecynnau hyfforddiant gyda llwybrau gyrfa ardderchog.
Os ydych chi'n chwilio am gydbwysedd bywyd gwaith, rydym yn cynnig patrwm gweithio hyblyg gydag oriau gwarantedig neu batrwm rheolaidd penodol i weddu i'ch ffordd o fyw.
Am fwy o wybodaeth neu sgwrs am y swydd uchod, cysylltwch â Jill Cowdry - 01554 742555 - jcowdry@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
033341.pdf - 139KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
30 Mehefin 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 20/05/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.