Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Cyflog
££- 25,583 - £- 26,403 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2847
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Llanelli
Gradd:
Gradd D
Cyflog:
£25,583 - £26,403
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.26 - £13.69
Oriau Contract:
35 Awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Ymunwch â'n tîm gofalu fel Gweithiwr Cymorth Arbenigol
Ydych chi'n garedig, yn ymroddgar, ac yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth? Ydych chi'n credu mewn parchu urddas unigolion, hyrwyddo annibyniaeth, a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person? Os felly, rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan hanfodol o'n tîm cefnogol a chynhwysol.
Ein hymrwymiad i werthoedd
Mae ymrwymiad dwfn i egwyddorion caredigrwydd, parch, ac uniondeb wrth wraidd ein gwasanaeth. Credwn fod pob unigolyn yn haeddu cael ei drin â charedigrwydd, a chael ei hawliau a'i ddewisiadau wedi'u harddel. Fel Gweithiwr Cymorth Arbenigol, byddwch yn ymgorfforiad o'r gwerthoedd hyn, gan greu amgylchedd gofalgar lle mae defnyddwyr gwasanaeth yn teimlo'n ddiogel ac wedi'u gwerthfawrogi a'u grymuso.
Beth fyddwch chi'n ei wneud
- Darparu cymorth wedi'i deilwra i anghenion unigryw pob unigolyn, gan barchu ei urddas a hyrwyddo annibyniaeth.
- Gweithredu fel eiriolwr, gan sicrhau bod hawliau a dewisiadau defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu clywed a'u parchu.
- Gweithio ar y cyd â thîm ymroddedig a meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, gofalwyr a phartneriaid cymunedol.
- Cefnogi arferion iechyd a gofal personol, gan gynnwys rheoli meddyginiaeth, yn broffesiynol ac yn sensitif.
- Galluogi'r unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, gan eu helpu i gyrraedd eu nodau a mwynhau bywyd i'r eithaf.
- Cadw at yr holl bolisïau iechyd, diogelwch a diogelu, gan greu amgylchedd diogel i bawb.
Beth rydym yn ei werthfawrogi
Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
- Garedig, yn amyneddgar, ac yn deall anghenion cymhleth.
- Ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i ddysgu.
- Parchu cyfrinachedd ac yn sensitif ei ffordd.
- Hyblyg, yn rhagweithiol, ac yn barod i weithio mewn gwahanol leoliadau i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
- Gweithio'n dda mewn tîm, yn gallu gweithio'n annibynnol pan fo angen, ac sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
- Llwybrau hyfforddi a datblygu cefnogol.
- Amgylchedd gwaith cydweithredol a chynhwysol.
- Cyfle i weithio'n hyblyg i gyd-fynd â'ch ffordd o fyw.
- Y boddhad a geir drwy gyfrannu at wasanaeth cymunedol pwysig.
Ymunwch â ni
Os ydych chi'n meddu ar NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu os ydych wedi ymrwymo i ennill y fath gymhwyster) ac yn barod am swydd y mae caredigrwydd a pharch yn sail iddi, rydym am glywed gennych.
Ymgeisiwch heddiw i fod yn rhan o dîm sy'n gwerthfawrogi eich caredigrwydd a'ch ymroddiad.
I gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lee Rowlands ar 01554 777222 nei ebostiwch slrowlands@carmarthenshire.gov.uk.
Disgrifiad Swydd:
018821.pdf - 142KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
13 Ebrill 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 22/03/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
• Cyflog cystadleuol • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr