Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2573
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
15
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd E +8%
Cyflog:
£28,515 - £31,903
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.78 - £16.54
Oriau Contract:
26.25 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Gweithiwr Cymorth Canolradd (Cartref yn Gyntaf) (Yn cynnwys gweithio gyda'r hwyr ac ar benwythnosau)
Rhagorol yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, 2025. "Mae Tosturi'n Meithrin Hyder - Helpu Pobl i Fyw'n Annibynnol Eto."
Ydych chi'n rhywun sy'n credu mewn helpu pobl yn ôl ar eu traed ar ôl salwch neu anaf? Dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn. Fel
Gweithiwr Cymorth Canolraddd byddwch yn helpu unigolion (oedolion hŷn yn bennaf, ond nid yn unig) i adfer ac adennill eu hannibyniaeth ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, cyfnod o salwch, neu yn ystod adegau o argyfwng - gan eu galluogi i fyw'n ddiogel ac yn hyderus gartref.
Dim profiad? Dim problem! Os ydych chi'n ofalgar, yn bwyllog, yn cyfathrebu'n dda a bod gennych agwedd gadarnhaol ac awydd gwirioneddol i helpu eraill, rydyn ni am glywed gennych. Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y rôl hon.
Byddwch yn rhan o
Dîm Gofal Canolraddol pwrpasol yng
Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan weithio'n agos gyda nyrsys, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu gofal tymor byr, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n cael effaith wirioneddol ar adferiad a llesiant pobl.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?- Darparu gofal a chymorth amserol yn ystod galwadau mewn argyfwng, gan ymateb i sefyllfaoedd brys lle mae iechyd neu annibyniaeth pobl mewn perygl.
- Helpu unigolion i adennill sgiliau a hyder o ran gweithgareddau bywyd bob dydd ar ôl salwch neu ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
- Darparu gofal personol (e.e. helpu pobl i ymolchi, gwisgo, neu ddefnyddio'r toiled) gydag urddas a pharch.
- Cynorthwyo o ran paratoi prydau bwyd a meddyginiaeth i hyrwyddo iechyd ac adferiad.
- Annog a galluogi pobl i weithio tuag at eu nodau adsefydlu ac ailalluogi, gan eu helpu i fod yn annibynnol unwaith eto.
- Monitro a chofnodi cynnydd, gan roi gwybod am newidiadau o ran cyflyrau unigolion a chysylltu â'r tîm iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.
Yr hyn rydym yn ei gynnig:- Hyfforddiant llawn a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Cymorth i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal proffesiynol.
- Cyflog cystadleuol iawn ac amser teithio â thâl rhwng galwadau.
- 45c y filltir ar gyfer defnydd personol o geir a mynediad i geir adrannol.
- Gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn, a buddion sy'n addas i deuluoedd.
- Gwaith sy'n rhoi boddhad ac sydd wir yn newid bywydau.
Byddwch yn cael eich croesawu i dîm gofalgar a phroffesiynol sy'n ymfalchïo mewn cefnogi rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed trwy'r broses adfer a thrwy argyfyngau. Mae'n rôl heriol ond yn un a fydd yn rhoi boddhad mawr, gan gynnig y cyfle i feithrin eich hyder a datblygu eich gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'n ofynnol i weithwyr Gofal Cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gefnogaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru.
Darperir gwisgoedd, bagiau, cyfarpar diogelu personol (PPE) a ffonau symudol i'n holl ofalwyr cartref weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
- Eleri Gealy - 01267 242474
- Lyndsay McNicholl - lynmcnicholl@carmarthenshire.gov.uk
- Gail Sinclair - gsinclair@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
Intergrated Home first job profile.pdf - 339KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 22/12/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.