37 Awr – Carfan 14+ (Gorllewin) Gradd 5 - £26,824 y flwyddyn Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymorth brwd sy'n llawn cymhelliant i ymuno â'n
Gwasanaeth 14+. Gan weithio yn unol â gofynion Deddf Plant 1989, Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, mae’r Garfan 14+ yn darparu gwasanaethau i bobl ifainc ar sail gofal a chymorth; pobl ifainc sydd mewn gofal a'r rhai sydd â phrofiad o ofal; yn ogystal â phobl ifainc sy'n ddigartref yn Rhondda Cynon Taf.
A chithau'n Weithiwr Cymorth yn y gwasanaeth yma, byddwch chi'n gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r garfan gan gynnwys Cynghorwyr Personol, Gweithwyr Cymdeithasol a Blaen Weithwyr Cymdeithasol a byddwch chi'n ymgymryd â chymorth ymarferol, yn rhan o gynllun person ifanc. Bydd hyn yn cynnwys mynd i apwyntiadau gyda phobl ifainc, gwaith uniongyrchol un wrth un, gwaith sy'n canolbwyntio ar weithgareddau; bydd pob un o'r rhain o dan gyfarwyddid aelodau'r garfan.
Bydd rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau cyfathrebu da gyda phobl ifainc a bod â pharodrwydd i weithio gyda'r grŵp oedran yma. Mae'r gwaith yn werth chweil a hefyd yn heriol. Bydd angen i chi weithio'n annibynnol ac yn hyblyg ond byddwch chi bob amser yn cael cymorth a chyfarwyddid o ran y meysydd gwaith y gofynnir amdanyn nhw.
Pam gweithio i ni? Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - wrth gefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymuso gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn rhaglen hyfforddi ystyriol o drawma mewnol.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod di-waith y mis!
- Mynediad i'n 'Mannau myfyriol' sy'n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng carfan o bobl neu unigolion, wedi'u hwyluso gan seicolegydd sy'n cefnogi'r broses o rannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor a 'Vivup', ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n gwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes ratach a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Cysylltwch âr rheolwr i gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol: Kathryn Morgan, Rheolwr y Garfan 14+ (Gorllewin), (01443) 425006. Gwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor. Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.