37 awr yr wythnos – Gradd 5 – £26,824 y flwyddyn
18.5 awr yr wythnos –13,412 y flwyddyn
Swyddi Gwag Learning Curve (Gorllewin) (Cwm Rhondda):
- 1 x swydd 37 awr
- 1 x swydd 18.5 awr
Swydd Wag Learning Curve (Dwyrain) (Pontypridd)
Mae'r Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd Anableddau Dysgu eisiau penodi unigolion brwd a chryf eu cymhelliant i weithio'n rhan o garfan Learning Curve RhCT (Gwasanaeth Oriau Dydd Anableddau Dysgu).
Mae'r gwasanaeth yn rhoi cymorth i oedolion sydd ag anableddau dysgu ac sydd angen cyfleoedd oriau dydd yn dilyn asesiad. Mae gan y gwasanaeth nifer o ganolfannau a phrosiectau sy'n rhoi gofal, cymorth a chyfleoedd oriau dydd ystyrlon i unigolion sydd ag anableddau dysgu, gan gynnwys anghenion cymhleth ac awtistiaeth. Mae'r ddarpariaeth yn diwallu amrywiaeth eang o anghenion, o ofal personol i ennyn diddordeb pobl drwy weithgareddau strwythuredig. Mae cael yr unigolyn sydd ag anabledd dysgu i gymryd rhan ragweithiol yn ganolog i'r ddarpariaeth.
Byddai profiad blaenorol o gefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu mewn modd parchus yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. O'ch penodi, bydd disgwyl i chi arfer eich profiadau bywyd a'ch sgiliau yn rhan o'ch swyddogaethau. Hefyd, bydd disgwyl i chi weithio yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol ym mhob achos ac ymrwymo i gynnal y safon uchaf o ofal a chymorth i unigolion.
Cewch chi sesiwn ymsefydlu, hyfforddiant a goruchwyliaeth barhaus i'ch helpu i weithio'n effeithiol i'r safonau disgwyliedig gan ganolbwyntio ar yr unigolyn ac anelu ar ddeilliannau.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at waith datblygu a monitro Cynlluniau Unigol wedi'u seilio ar ddeilliannau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny drwy lywio'r broses a chadw cofnodion dyddiol a dogfennau perthnasol eraill yn ôl yr angen.
Bydd gofyn i chi ddefnyddio cyfrifiadur a meddu ar sgiliau ysgrifennu a llafar ardderchog i gynnal cofnodion a chyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol eraill.
Yn ogystal â hynny, bydd gofyn i chi ddilyn a hyrwyddo arferion gwaith diogel, a sicrhau amgylchedd diogel bob amser.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â charfanau cefnogol wedi'u hen sefydlu. Bydd gofyn i chi hefyd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â rôl Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Oriau Dydd.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:
Dwyrain: Tracey Davies, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01685) 873647.
Gorllewin: Julie Richards, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01443) 436937.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.