Oriau gwaith: 30
Math o gontract: Rhan Amser, Cyfnod Penodol Tan31 af Mai 2026
Lleoliad: Siop Goffi Parc Islwyn
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £23,187 - £25,152 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rhaid bod yn berson arbennig i ymgymryd â rôl Gweithiwr Cymorth Cymunedol. Ai dyma chi?
Ydych chi'n ofalgar, dibynadwy a chyfeillgar, gydag agwedd gadarnhaol tuag at gynorthwyo unigolion i gyflawni eu nodau a'u dyheadau nhw? Yna, gofynnwch i'ch hun:
Ydw i eisiau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth i'w bywydau drwy'r cymorth rydw i'n ei ddarparu? Ydw i'n gweld fy hun fel person cymdeithasol? Hoffwn i fod yn rhan o dîm sydd â'r nod o wneud pobl yn hapus ac yn fodlon?
Os felly, mae gennych chi'r rhinweddau rydyn ni'n edrych amdanyn nhw i fod yn rhan o'n tîm.
Mae gennym ni gyfle cyffrous i Weithiwr Cymorth Cymunedol cyfnod penodol ymuno â'n Tîm Cymorth Cymunedol sy'n gweithio yn Siop Goffi Parc Islwyn ac Arlwyo Islwyn, lle rydyn ni'n darparu profiad gwaith gwirfoddol a chyfleoedd cyflogaeth â thâl. Byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr ag unigolion, yn eu cynorthwyo nhw i ddatblygu sgiliau, ennill gwybodaeth a sicrhau cymwysterau. Mae Arlwyo Islwyn yn darparu'r holl gynnyrch sy'n cael ei werthu yn y Siop Goffi, mae'r ddau yn amgylcheddau hyfforddi a gallan nhw fod yn brysur, yn enwedig Siop Goffi Parc Islwyn sy'n wynebu cwsmeriaid.
Bydd angen i chi allu gweithio'n hyblyg gyda ni i sicrhau bod lefel y cymorth sydd ei angen ar gael. Mae mynediad at gar yn un o ofynion y rôl hon.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Gofal ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau neu'r ymrwymiad a'r gallu i ennill y cymhwyster o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
- Profiad o fewn lleoliad anabledd dysgu.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) gan staff wedi'u lleoli yn y gymuned a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ag unigolion.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) er mwyn gyrru cerbyd y Cyngor ar brydles i deithio ag unigolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Er mwyn ymgymryd â'r swydd mae'n orfodol i ddeiliad y swydd basio asesiad gyrru fel y pennir gan rwymedigaethau yswiriant y cerbyd ar brydles.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Moore ar 07514 951347 neu ebost:
moores1@caerphilly.gov.uk / Rhay Duggan ar 075466 55159 neu ebost:
duggar@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.