Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2018
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd F
Cyflog:
£27,711 - £31,586
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.36 - £16.37
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Mae gennym swyddi gwag ar gyfer Gweithiwr Cymorth Cynnar yn ein Hwb Cymorth Cynnar sy'n rhan o'r maes Gwasanaeth Cymorth Cynnar ac Asesu.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno ag awdurdod cefnogol a blaengar sy'n gwerthfawrogi'r profiad a'r sgiliau sydd gennych chi. Byddwch yn rhan o Wasanaeth ehangach sy'n anelu at gadw plant a phobl Ifanc a'u teuluoedd gyda'i gilydd lle bynnag y bo hynny'n ddiogel, a byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd i wneud hynny. Os oes gennych chi'r sgiliau, brwdfrydedd, egni, cymhelliant a'r ymrwymiad i'n helpu ni i gyflawni'r nod hwn, yna gallai'r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn rôl gofal cymdeithasol.
Mae'r tîm wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac yn ymdrechu i wneud eu gorau glas yn y gefnogaeth y maent yn ei darparu. Rydym am i Blant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd ffynnu, teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddod o hyd i'w datrysiadau eu hunain sy'n gweithio iddyn nhw, aros gyda'i gilydd a theimlo'n gysylltiedig â'u cymunedau. Os ydych yn teimlo y gallech gyfrannu a dod â'ch profiad, eich syniadau a'ch creadigrwydd i gefnogi ein nod, rydym am glywed gennych.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Lowri Tommason-James; LTommason-James@sirgar.gov.uk neu Jodie Evans; jodieevans@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
028004.pdf - 188KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 11/08/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.