Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun – Dydd Gwener)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Tredomen/Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Tîm: Gwasanaethau Plant
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £28,598 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Diben y rôl yw darparu gwasanaeth i blant, pobl ifanc, eu teuluoedd neu ofalwyr o fewn eu lleoliadau neu gymunedau, sy'n cynnwys gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc.
Mae Gweithwyr Cymorth yn cynorthwyo swyddogion cymwysedig i gyflawni rhwymedigaethau statudol yr Awdurdod mewn perthynas â phlant a phobl ifanc a all fod yn “derbyn gofal”, neu sy’n destun cynllun gofal a chymorth.
Bydd cyfrifoldeb rheoli achosion yn cael ei ddyrannu mewn amgylchiadau priodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal a chymorth. Bydd hyn yn cynnwys gwaith asesu, cynllunio ac adolygu ar gyfer y plant a'r bobl ifanc hynny.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau rheoli amser a threfnu da, yn ogystal â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol, ond gwerth chweil.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal neu gyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Dealltwriaeth o ymddygiad plant a phobl ifanc, a’r angen am gymorth ac ymyrraeth mewn rhai amgylchiadau.
- Profiad o weithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sarah Parry/Colette Limbrick ar 02920849716/07394029942 neu ebost:
Parrys1@caerphilly.gov.uk l
imbrc@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.